English

Nod yr asesiadau hyn yw:

  • rhoi adborth i athrawon ar gryfderau plant a meysydd i’w datblygu ymhellach
  • helpu athrawon i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer dysgu eich plentyn

Bydd ysgolion yn penderfynu pryd a sut i rannu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr gyda rhieni a gofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys yr adborth o asesiadau personol. Anogir ysgolion i rannu’r wybodaeth â rhieni a gofalwyr tra bod yr wybodaeth yn gyfredol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros tan yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol. Er enghraifft, gallai’r athro neu’r athrawes rannu’r wybodaeth mewn noson rieni i drafod cynnydd eich plentyn yn seiliedig ar: 

  • adborth o un neu fwy o asesiadau ac ar
  • sylwadau’r athro neu’r athrawes o addysgu eich plentyn

Gwneir yr asesiadau personol ar-lein ac maent yn addasol. Mae hyn yn golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr. Bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall: 

  • yr hyn y gallant ei wneud 
  • yr hyn y mae angen iddynt ei wella 
  • eu camau nesaf

Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau: 

  • dysgwyr unigol 
  • grwpiau
  • dosbarthiadau cyfan

Nid oes unrhyw adeg benodol o’r flwyddyn wedi’i phennu ar gyfer asesiadau personol na ‘chyfnod asesu’. Mae’r amseriad yn cael ei benderfynu gan yr ysgol.

Gall y dysgwyr gwneud yr asesiadau naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol.

Mae rhaid i ddysgwyr wneud yr asesiadau unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiad unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.