English

Ar ôl i ddysgwyr gwblhau eu hasesiadau, bydd gan ysgolion fynediad at amrywiaeth o adroddiadau ac adborth ar eu: 

  • sgiliau
  • cynnydd
  • sgoriau safonedig ar sail oedran

Gall ysgolion ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu i gynllunio dysgu ac addysgu.

Gosodir y gofynion ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn llawlyfr gweinyddu’r asesiadau personol.

Er mwyn cael mynediad at yr asesiadau, bydd angen i chi fewngofnodi i Hwb. Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch yr eicon asesiadau personol ar yr hafan neu o'r ddewislen.

Mae'r fideo hwn yn dangos sut i fewngofnodi i Hwb a chael mynediad at y wefan asesiadau personol.

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mae asesiadau personol Darllen a Rhifedd yn fandadol i'w defnyddio ym Mlynyddoedd 2 i 9. Mae llawlyfr gweinyddu’r asesiadau personol yn amlinellu’r gofynion ar gyfer eleni.

  • Gall ysgolion amserlennu asesiadau personol ar adeg y maent yn ei hystyried yn fwyaf buddiol i gefnogi addysgu, dysgu a chynnydd.
  • Rhaid i ddysgwyr wneud pob asesiad unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd gynnal yr asesiadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.

Gofynnir i athrawon sicrhau bod eu holl ddysgwyr yn defnyddio'r asesiadau ymgyfarwyddo ar Hwb. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar y mathau o gwestiynau cyn cymryd yr asesiadau.

Mae’r canllaw i ddefnyddwyr ar y wefan asesu yn darparu gwybodaeth ymarferol fanwl am:

  •  amserlennu a chyflwyno'r asesiadau (gan gynnwys rhestrau gwirio)
  • cael gafael ar adroddiadau

Mae sgoriau safonedig ar sail oedran a sgoriau cynnydd yr asesiadau hynny sy’n cael eu gwneud o fis Medi 2023 ymlaen yn ystyried yr ‘amser dysgu’ a gafwyd yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn cefnogi a gwella dealltwriaeth o gynnydd y dysgwyr o dan y Cwricwlwm i Gymru.

O fis Medi 2023 ymlaen, caiff sgoriau’r asesiadau eu cyfrifo’n unol â phroses ailsafoni, sy’n defnyddio dysgwyr 2022 i 2023 fel y garfan gyfeirio.

Cymorth ac arweiniad i ysgolion

 Mae cymorth ac arweiniad ar gael ar wefan yr asesiadau. Ar ôl cael mynediad at y wefan, cliciwch 'Help' i gael mynediad at:

  • fideos
  •  canllaw i ddefnyddwyr
  • deunyddiau hyfforddi
  •  asesiadau ymgyfarwyddo

I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.

I gael cymorth ar yr asesiadau personol, cysylltwch â:

 

Asesiadau personol: Canllawiau i ymarferwyr ar adroddiadau adborth a chynnydd i ddysgwyr unigol

Mae gweminarau ar gyfer athrawon ar gael ar system yr asesiadau personol.

Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu’r defnydd o asesiadau personol i dargedu a gwella canlyniadau’r dysgwyr.

Mae gwybodaeth i rieni a gofalwyr hefyd ar gael.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r asesiadau personol yn addasol. Mae hyn yn golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr. Bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall: 

  • yr hyn y gallant ei wneud
  • yr hyn efallai y mae angen iddynt ei wella
  •  eu camau nesaf posibl

Mae'n ofynnol i ddysgwyr sefyll pob asesiad unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau dysgwyr unigol, grwpiau a dosbarthiadau cyfan.

Nid oes unrhyw 'gyfnod asesu' ar gyfer asesiadau personol. Mae amseru yn ôl disgresiwn yr ysgol.

Gall y dysgwyr sefyll yr asesiadau personol naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol. Nid oes angen nifer fawr o ddyfeisiau ar ysgolion.

Clipiau fideo: barn a phrofiadau dysgwyr, athrawon ac arbenigwyr asesu

Edrychwch ar y mathau o gwestiynau sydd yn yr asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 3

Edrychwch ar y mathau o gwestiynau sydd yn yr asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 4 i 6

Edrychwch ar y mathau o gwestiynau sydd yn yr asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9