Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein.
- Rhan o
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae rhai safbwyntiau neu ideolegau a rennir ar-lein yn cael eu hystyried yn radical neu'n eithafol. Radicaleiddio yw pan fydd unigolyn neu grŵp yn mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol a all arwain at drais neu derfysgaeth.
Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i’n gwerthoedd cyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys democratiaeth a rheolaeth y gyfraith, cydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill. Mae grwpiau eithafol yn defnyddio’r rhyngrwyd, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol ac offer AI, i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr gyda’r nod o ddod o hyd i bobl sy’n agored i’w negeseuon a’u dylanwad. Gallai arwyddion fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio gynnwys newid ffrindiau ac ymddangosiad, gwrthod gwrando ar safbwyntiau gwahanol, bod yn amharod i ymwneud â’r rhai sy’n wahanol, cofleidio damcaniaethau cynllwyn a bod â chydymdeimlad at ideolegau a grwpiau eithafol.
Gallwch adrodd am gynnwys sy’n gysylltiedig â therfysgaeth ar-lein i’r Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd (Saesneg yn unig). Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio, gallwch gael cyngor gan eich arweinydd diogelu lleol neu wneud atgyfeiriad i ddiogelu’r person rydych chi’n poeni amdano drwy ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio Prevent.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
-
Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
Mae’r canllaw ymarfer hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am ymagweddau diogelu at blant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein.
Adnoddau
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi ysgolion a’r gymuned ysgol ehangach gyda radicaleiddio ac eithafiaeth.
Gwybodaeth i blant a phobl ifanc
-
Problemau a phryderon ar-lein: radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
Gwybodaeth sy'n esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt a ble i fynd i gael cymorth.
Rhagor o wybodaeth
- Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd (Saesneg yn unig)
- Prevent (Saesneg yn unig)
- Hyfforddiant dyletswydd Prevent
- Counter Terrorism Policing Prevent (Saesneg yn unig)
- ACT Early - Prevent Radicalisation and Extremism by Acting Early (Saesneg yn unig)
- Atal radicaleiddio ar-lein (rhaglen e-ddysgu i rieni ac ymarferwyr gan WISE KIDS)