English

Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn barod i ymateb i'r diddordeb cynyddol mewn e-chwaraeon fel gweithgaredd digidol a all gefnogi:

  • dysgu
  • ymgysylltu
  • llesiant

Mae hyn yn golygu deall y:

  • cyfleoedd y gall e-chwaraeon eu cynnig i ddysgwyr
  • cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rheoli risgiau cysylltiedig

Dylai ymarferwyr sy'n dewis defnyddio e-chwaraeon mewn addysg wneud hynny mewn ffyrdd sy'n gynhwysol, yn bwrpasol ac yn ddiogel. Rhaid i bob cyfranogiad fod yn addas ar gyfer yr oedran ac yn cyd-fynd â:

  • pholisïau diogelu
  • gwerthoedd ysgol
  • blaenoriaethau addysgol

Mae'r cysylltedd a ddarperir gan ddatrysiad e-chwaraeon Rhwydwaith Sector Cyhoeddus Cymru (PSBA) yn bodloni Safon Cysylltedd y safonau digidol addysg. Fodd bynnag, er ei fod yn galluogi mynediad at gemau ar-lein penodol, efallai na fydd hidlo a monitro safonol yn berthnasol. Felly mae goruchwyliaeth weithredol yn hanfodol. Mae canllawiau pellach ar gael trwy'r Safonau Digidol Addysg ar Hwb.
Dylai arweinwyr staff technegol neu TG chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gweithredu diogel, yn enwedig mewn perthynas â:

  • seiberddiogelwch
  • hidlo
  • monitro

Lle mae ysgolion yn defnyddio partneriaid cymorth technoleg addysg allanol, mae'n hanfodol bod y partneriaid hyn:

  • yn ymwybodol o ofynion yr ysgol
  • cydymffurfio â pholisïau perthnasol

Dylai ysgolion hefyd archwilio'r gwasanaethau hyn i sicrhau cydymffurfiaeth. Dylid ffurfweddu'r holl systemau a llwyfannau e-chwaraeon i gwrdd â:

  • diogelwch sefydliadol
  • gofynion goruchwylio

Efallai y bydd ysgolion hefyd yn dymuno cyfeirio at God Ymddygiad E-chwaraeon Cymru ar gyfer arweiniad ar safonau cystadleuaeth a chwarae teg.

Mae angen i ysgolion, fel rhan o gynllunio cwricwlwm, feddwl yn ofalus am:

  • y dysgu maen nhw am ei weld
  • pwrpas y dysgu hwnnw
  • sut y gall gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gwahanol ar draws y cwricwlwm gyfrannu at ddatblygiad eu dysgwyr 

Ar ôl mynd trwy'r broses hon, efallai y bydd ysgolion am ddefnyddio adloniant digidol fel cyd-destun ar gyfer dysgu ac ymgysylltu. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i'r gweithgaredd:

  • fod yn bwrpasol
  • bod yn briodol i'r dysgu
  • bod â gwerth addysgol cynhenid

Gall e-chwaraeon fod yn blatfform deinamig a chynhwysol i ddysgwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i chwarae. Pan gant eu gweithredu'n feddylgar, gall e-chwaraeon:

  • gefnogi cymhwysedd digidol
  • cefnogi llesiant
  • cefnogi llais y dysgwr
  • cefnogi parodrwydd ar gyfer y dyfodol
  • hyrwyddo cynhwysiant ac ymgysylltiad â'r gymuned

Datblygiad a chydnabyddiaeth dysgwyr

Gall e-chwaraeon ddarparu llwybrau newydd ar gyfer cydnabod llwyddiant dysgwyr, gan gynnwys:

  • sgiliau a meddwl strategol yn ystod chwarae
  • rolau arweinyddiaeth a thîm
  • cydweithredu a chyfathrebu
  • twf a gwydnwch personol

Gall ysgolion ddathlu'r cyflawniadau hyn trwy:

  • wasanaethau ysgol
  • cylchlythyrau
  • portffolios digidol
  • gemau wedi'u ffrydio'n fyw

Gall cynnwys dysgwyr i lunio gwerthoedd, disgwyliadau a chod ymddygiad eu tîm meithrin perchnogaeth ac atebolrwydd hefyd.

Gallai hyn gynnwys:

  • cyd-greu siarteri tîm
  • gosod nodau ar gyfer ymddygiad parchus ar-lein
  • myfyrio ar ddeinameg tîm a chwarae teg

Mae'r dulliau hyn yn cefnogi egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru drwy hyrwyddo:

  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog

Llythrennedd digidol, cyfleoedd trawsgwricwlaidd a chyfoethogi

Gall e-chwaraeon ategu profiadau dysgu digidol eraill, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • prosiectau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys adrodd straeon, codio neu ddylunio

Gall y cysylltiadau hyn helpu i ymgorffori e-chwaraeon mewn strategaeth ddysgu digidol ehangach. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun y byd go iawn ar gyfer:

  • addysgu dinasyddiaeth ddigidol
  • hyrwyddo ymddygiad ar-lein cyfrifol

Cynhwysiant a hygyrchedd

Gall e-chwaraeon gynnwys dysgwyr sydd ddim efallai yn ymwneud â chwaraeon traddodiadol, gan gynnwys:

  • y rhai ag anableddau corfforol
  • dysgwyr niwroamrywiol
  • y rhai sy'n profi pryder cymdeithasol

Gall e-chwaraeon gynnig:

  • amgylchiadau cystadlu teg ar gyfer pob gallu
  • cyfleoedd ar gyfer timau rhywedd cymysg a thimau cynhwysol
  • mannau diogel i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gemau cyfrifiadurol

Gall ysgolion hefyd archwilio creu digwyddiadau neu dimau pwrpasol i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant.

Ymgysylltu â'r gymuned ac ysgolion

Gall E-chwaraeon gryfhau cysylltiadau ysgol a chymunedol trwy:

  • gynnwys teuluoedd trwy ddigwyddiadau gwylio neu gylchlythyrau
  • cynnal twrnameintiau rhwng ysgolion neu ranbarthol
  • annog dysgwyr i ymgymryd â rolau arwain fel capten tîm neu drefnydd digwyddiadau

Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu i feithrin hyder, cyfrifoldeb ac ymdeimlad o berthyn.

Gall e-chwaraeon fod yn brofiad pwerus a chadarnhaol i ddysgwyr, ond mae'n rhaid ei roi ar waith â:

  • gofal
  • proffesiynoldeb
  • fframwaith diogelu cryf

Mae gan staff ran hanfodol o ran:

  • modelu ymddygiad priodol
  • sicrhau cyfranogiad diogel
  • cydweddu gweithgareddau â gwerthoedd a pholisïau’r ysgol

Diogelu, goruchwylio ac ymddygiad ar-lein

Rhaid i bob gweithgaredd e-chwaraeon gydymffurfio â:

Dylai staff:

  • ddefnyddio platfformau diogel
  • sicrhau goruchwyliaeth briodol yn ystod chwarae ar-lein, yn enwedig pan mae dysgwyr yn rhyngweithio ag eraill

Dylid cynnal ffiniau proffesiynol clir mewn mannau digidol. Ni ddylai staff ymgysylltu â dysgwyr trwy gyfrifon personol neu blatfformau nad ydyn nhw wedi eu cymeradwyo.

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chamddefnyddio, tor diogelwch data neu ymddygiad amhriodol ar unwaith yn unol â gweithdrefnau'r ysgol.

Rhaid monitro rhyngweithiadau ar-lein yn ystod sesiynau e-chwaraeon a rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn brydlon.

Anogwch ddysgwyr i fyfyrio ar eu hymddygiad digidol a deall effaith eu gweithredoedd ar eraill.

Hyrwyddwch gyfathrebu parchus, dangos chwarae teg da a rheoli enw da ar-lein yn gadarnhaol.

Sgoriau oedran a chynnwys priodol

  • Sicrhewch fod yr holl gemau a ddefnyddir yn addas i’r oedran ac yn addas ar gyfer cyd-destun yr ysgol.
  • Dylid cyfeirio at ganllawiau ynghylch apiau Hwb ar gyfer teuluoedd am wybodaeth am sgoriau oedran, terminoleg, risgiau a rheolaethau rhieni.

Ymgysylltu â rhieni neu ofalwyr

  • Dylid cael caniatâd rhieni neu ofalwyr ar gyfer cymryd rhan, yn enwedig pan mae rhyngweithio ar-lein neu ffrydio yn gysylltiedig.
  • Dylai cyfathrebu â dysgwyr a theuluoedd bob amser fod trwy sianeli ysgol cymeradwy yn unig.

Amser sgrin a chyfranogiad iach

  • Cefnogwch ddysgwyr i gydbwyso amser sgrin gyda gorffwys, hydradu a chwsg.
  • Gall staff ddefnyddio cynlluniau hyfforddi a thracwyr llesiant er mwyn annog arferion iach.
  • Byddwch yn effro i arwyddion o flinder, straen neu or-ymgysylltu. Cyfeiriwch ddysgwyr at gefnogaeth lle bo angen.

Cynhwysiant a hygyrchedd

  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl weithgareddau e-chwaraeon yn gynhwysol ac yn adlewyrchu gwerthoedd yr ysgol.
  • Ystyriwch anghenion hygyrchedd a rhoi cyfleoedd i bob dysgwr gymryd rhan, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau.
  • Hyrwyddwch dimau cynhwysol o ran rhywedd a mannau diogel ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cydweddu seilwaith a pholisïau

  • Gwnewch yn siŵr bod polisïau awdurdodau lleol yn cael eu dilyn, yn enwedig o ran hidlo a monitro.
  • Gall y cysylltedd a ddarperir gan ddatrysiad e-chwaraeon PSBA ganiatáu mynediad at gemau ar-lein nad ydyn nhw’n destun mecanweithiau hidlo gwe safonol. Felly mae goruchwyliaeth yn hanfodol bob amser.
  • Ystyriwch ddefnyddio templed asesu risg ar gyfer digwyddiadau neu sesiynau rheolaidd.
  • Sicrhewch eu bod yn yn cyd-fynd â'r safonau digidol addysg ar gyfer cysylltedd, diogelwch a defnydd platfform.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r ystyriaethau hidlo cynnwys y we pe bai dyfeisiadau Apple (iOS) yn cael eu defnyddio.

Ymwybyddiaeth o seiberdroseddu

Yn ogystal ag atgyfnerthu ymddygiadau moesegol, dylid addysgu dysgwyr hefyd am ffiniau cyfreithiol ymddygiad ar-lein. Mae hyn yn cynnwys risgiau:

  • defnyddio offer twyllo
  • hacio
  • cymryd rhan mewn troseddau seiber wedi'u galluogi

Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy chwilio am adnoddau ymwybyddiaeth seiberdroseddu fel y Templed Polisi Camddefnyddio Cyfrifiaduron a Cyber Choices.

Os yw eich ysgol yn trefnu cystadleuaeth neu ddigwyddiad e-chwaraeon, mae'n hanfodol sicrhau bod yr holl weithgareddau yn:

  • gynhwysol
  • diogel
  • cyd-fynd â pholisïau ysgolion ac awdurdodau lleol

Mae'r trefnwyr yn chwarae rhan allweddol yn:

  • sefydlu’r naws a’r disgwyliadau ar gyfer cyfranogwyr
  • creu amgylchedd cadarnhaol, wedi'i reoli'n dda

Cynllunio a pharatoi

  • Gosodwch ddisgwyliadau clir ar gyfer ymddygiad a moeseg dysgwyr, ymddygiad digidol a dangos chwarae teg.
  • Cwblhewch asesiad risg trylwyr ar gyfer y digwyddiad. Dylai hyn gynnwys goruchwyliaeth, diogelu, ac ystyriaethau technegol.
  • Gwnewch yn siŵr bod lefelau priodol o oruchwyliaeth gan oedolion ar waith drwy gydol y digwyddiad, ar-lein ac yn bersonol.
  • Dylai diogelu fod yn flaenllaw ym mhob rhan o’r gwaith cynllunio a chyflawni.
  • Hyrwyddwch dimau sy'n gynhwysol o ran rhywedd. Gwnewch yn siŵr bod yr amgylchedd yn groesawgar i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gemau cyfrifiadurol.
  • Ystyriwch gynnig fformatau sy'n gyfeillgar i ddechreuwyr neu rolau amgen (er enghraifft, rheoli tîm) i ehangu cyfranogiad.
  • Gwnewch yn siŵr bod y digwyddiad yn cydymffurfio â pholisïau seilwaith digidol eich ysgol a Safonau Digidol Addysg.
  • Os ydych chi'n defnyddio datrysiad e-chwaraeon PSBA, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd mynediad at gemau ar-lein yn destun hidlo a monitro safonol. Mae goruchwyliaeth weithredol yn hanfodol.
  • Dangoswch y rheolau a’r disgwyliadau’n glir yn y lleoliad ac ar-lein, a gwnewch yn siŵr bod yr holl gyfranogwyr yn ymwybodol ohonyn nhw.

Gweithio gyda sefydliadau allanol

Os yw sefydliadau allanol yn cymryd rhan (er enghraifft, i gefnogi darpariaeth, darparu offer, neu gynnal twrnameintiau), gwnewch yn siŵr:

  • eu bod yn deall a chydymffurfio â pholisïau diogelu eich ysgol
  • bod ganddyn nhw wiriadau’r Gwasanaeth datgelu a Gwahardd (DBS) ac yswiriant priodol ar waith
  • eu bod wedi’u briffio am eich disgwyliadau ar gyfer ymddygiad a chynhwysiant dysgwyr

Dylai dysgwyr sy'n cymryd rhan mewn e-chwaraeon ddeall beth sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw o ran:

  • ymddygiad
  • cyfathrebu
  • cyfrifoldeb digidol

Dylid cyfleu’r disgwyliadau hyn yn glir a'u hatgyfnerthu trwy:

  • drafodaethau tîm
  • siarteri
  • cytundebau defnydd derbyniol