English

Gallai'r bwrdd stori gael ei ysbrydoli gan y canlynol:

  • gwahanol ddefnyddiau o AI a sut y gall helpu, neu weithiau achosi problemau, o ran meddwl, creadigrwydd a lles
  • dychmygu dyfodol lle mae AI yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol i gefnogi mannau digidol mwy diogel
  • beth all fynd o'i le a ffyrdd o ymateb i unrhyw ddefnyddiau negyddol o AI

Gweler yr adran 'Thema Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel' ar y dudalen hon am syniadau o ran sut i gyflwyno'r thema hon i'ch dysgwyr. Dylai ceisiadau gynnwys neges gref mewn perthynas â diogelwch ar-lein neu gynnwys cymeriad sy'n dysgu gwers bwysig am gadw'n ddiogel ar-lein.

Mae pwyslais y gystadleuaeth ar y neges gyffredinol sy'n cael ei rhannu, yn hytrach na safon yr arlunio neu'r ysgrifennu.

Gallwch lawrlwytho'r templed bwrdd stori neu ddatblygu bwrdd stori eich hun.

  • Templed bwrdd stori docx 32 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Gallwch hefyd wneud defnydd o'n Adobe's templed bwrdd stori digidol (mae angen mewngofnodi i Hwb).

Gweler y canllaw fideo am rai awgrymiadau defnyddiol ar sut i ddefnyddio Adobe Express i greu templed bwrdd stori digidol.

Bydd ceisiadau buddugol yn cael eu harddangos ar Hwb a byddwn yn dathlu eu llwyddiant fel rhan o'n hymgyrch Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2026.

Cystadleuaeth yn agor

Dydd Llun, 20 Hydref 2025.

Cystadleuaeth yn cau

Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2025 am 5pm.

Cyhoeddi'r enillydd

Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2026 (dyddiad dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel).

Cymhwystra

Ar agor i ysgolion a lleoliadau ieuenctid yng Nghymru, ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 11 oed. Nid oes terfyn ar nifer y ceisiadau fesul ysgol neu sefydliad ieuenctid.

Fformat

Gall dysgwyr ddefnyddio beiro a phapur neu offer digidol, fel Adobe. Bydd angen cyflwyno'r rhain fel .jpeg, .png neu PDF.

Categorïau

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu mewn 2 gategori oedran ar wahân, 3 i 7 a 7 i 11.

I gael gwybodaeth am sut rydym yn trin data, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru.

  • Rhaid i ysgolion gyflwyno'r ffurflen gais ar ran dysgwyr. Dim ond ceisiadau a gyflwynir gan ymarferydd addysg neu arweinydd ieuenctid fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth.
  • Er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg, byddwn ond yn ystyried ceisiadau a gynhyrchir mewn ymdrech greadigol ar y cyd rhwng dysgwyr a'u hysgol neu leoliad ieuenctid. Dylai ymarferwyr arwain a chefnogi'r gwaith ond ni ddylent greu cynnwys eu hunain.
  • Rhaid cyflwyno'r byrddau stori drwy'r Ffurflen Microsoft (mae angen cyfrif Hwb i ddefnyddio’r ffurflen) hon erbyn 5pm ar ddydd Gwener 5 Rhagfyr 2025. Os oes problem cysyllwch â diogelarlein.safeonline@llyw.cymru.
  • Ni ddylai byrddau stori fod yn hwy na 12 golygfa.
  • Rhaid i bob bwrdd stori gynnwys neges ddyrchafol a chynnwys cynnwys a delweddau sy'n addas i'w grŵp oedran.
  • Rhaid i bob bwrdd stori barchu cyfraith hawlfraint.

Mae deddfau hawlfraint yn amddiffyn y rhai yn y diwydiannau creadigol, gan ganiatáu iddynt gael eu gwobrwyo am eu gwaith. Maent wedi'u cynllunio i hysbysu pwy all gopïo, addasu neu ddosbarthu'r gwaith hwnnw heb ganiatâd a phryd y caniateir hyn.

Cyn i chi ddechrau gweithio ar y bwrdd stori, mae'n bwysig eich bod chi'n ymgyfarwyddo â'r agweddau cyfreithiol ar hyn. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gynnwys rydych chi'n ei ddefnyddio naill ai'n wreiddiol, wedi'i drwyddedu'n briodol neu'n dod o fewn y defnydd a ganiateir.

Gallwch ddarganfod mwy am hawlfraint gan y Swyddfa Eiddo Deallusol a Creative Commons.

Ar gyfer yr ymgyrch hon, bydd ein ffocws ar AI, gan archwilio sut mae'n siapio ein profiadau ar-lein a sut y gallwn ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol.

Er y gall plant iau fod â phrofiad cyfyngedig o ddefnyddio AI, bydd llawer yn gyfarwydd â dyfeisiau clyfar. Esboniwch fod AI y tu ôl i:

  • awgrymiadau ar beth i'w wylio nesaf ar wasanaethau ffrydio
  • cynorthwywyr llais fel Alexa neu Siri
  • testun awtogywiro a rhagfynegol wrth deipio negeseuon ar dabled neu ffôn
  • apiau sy'n helpu i ddysgu darllen trwy roi adborth wedi'i bersonoli

Efallai y bydd yn ddefnyddiol egluro bod AI hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd eraill, megis:

  • helpu meddygon i wneud diagnosis o glefydau
  • gwneud ceir yn fwy diogel
  • helpu ffermwyr i dyfu cnydau gwell