Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Ymgyrch fyd-eang yn annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn modd diogel a chadarnhaol.
- Rhan o
Trosolwg
Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (SID) 2026 ar ddydd Mawrth 10 Chwefror 2026. Mae'n cael ei gydlynu gan Ganolfan Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y Deyrnas Unedig
Ei nod yw ysgogi sgwrs ledled y Deyrnas Unedig ynghylch defnyddio technoleg mewn ffyrdd sydd yn:
- gyfrifol
- barchus
- greadigol
- seiliedig ar feddwl beirniadol
Mae cyfleoedd i blant a phobl ifanc, ysgolion, rhieni a gofalwyr a busnesau yng Nghymru gymryd rhan.
Ar gyfer yr ymgyrch hon, bydd ein ffocws ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan edrych ar y canlynol:
- sut mae'n siapio ein profiadau ar-lein
- sut y gallwn ei ddefnyddio yn ddiogel ac yn gyfrifol
Rydym yn gwybod bod cefnogi eich dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus a chyfrifol ar-lein yn flaenoriaeth allweddol. Mae cymryd rhan yng ngweithdai'r diwrnod yn gyfle gwych i ychwanegu at y gwaith hwn a'i ddathlu.
Sut allwch chi gymryd rhan
Cystadleuaeth bwrdd stori ar gyfer dysgwyr cynradd
Rydym yn gwahodd dysgwyr cynradd ledled Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth greadigol. Yr her i ddysgwyr yw dylunio bwrdd stori sy'n archwilio'r mater o ddiogelwch ar-lein – AI yw'r thema a awgrymwyd. Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu harddangos ar Hwb a'u dathlu fel rhan o'n hymgyrch Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2026.
- Mae'r gystadleuaeth yn agor ar ddydd Llun, 20 Hydref 2025.
- Mae'r gystadleuaeth yn cau ar ddydd Gwener, 5 Rhagfyr 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen cystadleuaeth SID.
Digwyddiad i ysgolion uwchradd: Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2026
Rydym yn dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2026 drwy wahodd ysgolion uwchradd yng Nghymru i Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd. Byddwn yn archwilio'r materion diogelwch ar-lein diweddaraf, gan gynnwys effaith AI, trwy gynnal 2 ddigwyddiad sy'n cydredeg â'i gilydd:
- un i ddysgwyr rhwng 14 ac 17 oed
- un wedi'i deilwra ar gyfer ymarferwyr addysg
Bydd sesiynau cyfochrog yn digwydd trwy gydol y dydd. Bydd y rhain yn cynnwys mewnwelediadau arbenigol gan sefydliadau diogelwch ar-lein blaenllaw a gweithgareddau rhyngweithiol.
Gallwch ddarganfod mwy a chadw lle eich ysgol trwy'r dudalen Digwyddiad SID.
Ymgyrchoedd blaenorol
-
Dyddiad: 11 Chwefror 2025.
Thema: 'Rhy dda i fod yn wir? Amddiffyn eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein'.
Gweithgareddau: Ar gyfer Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2025, gwnaethom wahodd dysgwyr i gyfrannu cynnwys i'r ardal Cadw'n Ddiogel ar-lein ar Hwb, gan ganolbwyntio ar sgamiau ar-lein. Fe wnaethom hefyd bartneru ag e-sgol i ddatblygu gwasanaethau ysgol i helpu i hyrwyddo arferion rhyngrwyd mwy diogel.
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
Thema: Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein
Gweithgareddau: Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 fe wnaethom ddatblygu gwasanaeth pwrpasol i’ch helpu i gychwyn sgyrsiau am ddefnydd diogel, cadarnhaol a chyfrifol o dechnoleg yn eich ysgol. Drwy gydol wythnos Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhithwir rhyngweithiol i ysgolion gyda'n partneriaid arbenigol, gan gynnwys Estyn, Childnet, SWGfL, Heddlu Gogledd Cymru ac Adobe.
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023
Thema: Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein
Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru, gystadleuaeth ffilm a oedd yn gwahodd plant a phobl ifanc i greu ffilm fer sy’n cyflwyno eu safbwyntiau, eu barn a’u storïau ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Roeddem am glywed ganddyn nhw yn eu geiriau ei hunain am fanteision yr apiau hyn a’r pryderon sydd ganddynt wrth eu defnyddio. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad i ddathlu pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Stadiwm Principality ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:
- Enillydd Cynradd: Ysgol Bro Teifi
- Enillydd Uwchradd: Ysgol Nantgwyn
- Ail Cynradd: Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Ail Uwchradd: Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Griffithstown
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Cadle
- Canmoliaeth uchel: Ysgol y Deri, ‘Class 5FN does gaming’
- Canmoliaeth uchel: Ysgol y Deri, ‘The need for speed’
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022
Thema: Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein
Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), gystadleuaeth ffilm gyda’r nod o annog plant a phobl ifanc i fynegi eu creadigrwydd a rhannu eu dealltwriaeth o ddangos parch ar-lein. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:
- Enillydd Cynradd: Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Enillydd Uwchradd: Ysgol Tŷ Coch
- Ail: Ysgol Bro Pedr
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Tregatwg
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Bro Teifi
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
Thema: Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein
Gweithgareddau: Gweithiodd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd i gynnal cystadleuaeth ‘Straeon digidol: Mynd i'r afael â Chamwybodaeth’. Roedd y gystadleuaeth hon yn galw ar blant a phobl ifanc arfer eu hawen greadigol drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio darn sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai achosi problemau, sut y gallwn adnabod camwybodaeth a beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a sicrhau nad yw'n lledaenu. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad rhithwir ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.