Diogelwch ar-lein
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar ddiogelwch ar-lein.
- Rhan o
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar y rhyngrwyd i gadw plant a phobl ifanc a’ch hun yn ddiogel ar-lein. Mae ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’ yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a chyfrifol.
Mae gennym ni wybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau diogelwch ar-lein yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys cydsyniad, preifatrwydd a data, cynnwys amhriodol neu sarhaus, ffrydio byw, iechyd a lles meddyliol a’r rhyngrwyd, camwybodaeth, bwlio ar-lein, meithrin perthynas amhriodol ar-lein, casineb ar-lein, radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein, perthnasoedd ar-lein, enw da ar-lein ac ôl troed digidol, aflonyddu rhywiol ar-lein, amser sgrin, rhannu delweddau noeth a hanner noeth a’r cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadur ac apiau. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am oblygiadau diogelwch technolegau datblygol, fel AI cynhyrchiol.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
-
Cadw dysgwyr yn ddiogel
Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
-
Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi unigolion ac asiantaethau ledled Cymru er mwyn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel.
Modiwlau hyfforddi
-
Cyflwyniad i ddiogelu: Cadw dysgwyr yn ddiogel modiwl 1
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu beth mae 'diogelu' yn ei olygu, ac am y rôl bwysig sydd gennych yn cadw dysgwyr yn ddiogel.
-
Rolau a chyfrifoldebau diogelu: Cadw dysgwyr yn ddiogel modiwl 2
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu rhagor am eich rôl a’ch cyfrifoldebau o ran cadw dysgwyr yn ddiogel.
-
Astudiaethau achos ymarfer diogelu: Cadw dysgwyr yn Ddiogel modiwl 3
Yn y modiwl hwn, edrychwn ar rai astudiaethau achos. Bydd y rhain yn eich helpu i roi’ch gwybodaeth am gadw dysgwyr yn ddiogel ar waith.
-
Diogelwch ar-lein i ymarferwyr: Cadw Dysgwyr yn Ddiogel modiwl 4
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu beth mae diogelwch ar-lein yn ei olygu, ac yn cael gwybod am eich rôl bwysig yn cadw dysgwyr yn ddiogel.
-
Diogelwch ar-lein i lywodraethwyr: Cadw dysgwyr yn ddiogel modiwl 5
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu beth mae diogelwch ar-lein yn ei olygu, ac yn cael gwybod am eich rôl bwysig yn cadw dysgwyr yn ddiogel.
Adnoddau
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi ysgolion a’r gymuned ysgol ehangach gyda diogelwch ar-lein.
Gwybodaeth i blant a phobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Information which explains some risks to be aware of and where to go for help.