English

Mae ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer SWGfL (Saesneg yn unig) yn dangos bod ysgolion a cholegau yn dda am reoli delweddau a fideos. Fodd bynnag, mae technolegau newydd yn dod â risgiau, felly mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus am fygythiadau.

Gall unrhyw un gael mynediad at unrhyw ddelwedd neu fideo gyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol. Dylai ysgolion fod yn ofalus wrth rannu delweddau neu fideos o ddysgwyr yn gyhoeddus. Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fod yn agored i we-grafu, â llawer iawn o gynnwys cyhoeddus yn cael ei gasglu ar yr un pryd. Gall colli rheolaeth ar ddelweddau olygu bod dysgwyr yn agored i risgiau data a phreifatrwydd.

Camau ymarferol ar gyfer rheoli delweddau a fideos o ddysgwyr

Mae'r canllawiau hyn yn awgrymu ffyrdd o leihau risgiau a chefnogi arferion gorau. Mae angen cymorth technegol ar gyfer rhai camau gweithredu, fel newidiadau i’r wefan. Ond mae yna hefyd gamau ymarferol y gallwch eu cymryd. 

Dylech adolygu cynnwys ar-lein yn rheolaidd

Cynhaliwch archwiliadau o wefan a chyfryngau cymdeithasol eich ysgol i asesu'r angen am ddelweddau o ddysgwyr. Defnyddiwch ddelweddau generig yn lle delweddau adnabyddadwy lle bo hynny'n bosibl.

Defnyddiwch bolisi 'enwau-dim-delweddau' neu 'delweddau-dim-enwau'

Osgowch gyhoeddi gwybodaeth adnabyddadwy gyda delweddau, fel enwau llawn.

Cyfyngwch ar welededd cyhoeddus delweddau o ddysgwyr

Dim ond pan fo angen y dylech ddefnyddio delweddau. Rhowch nhw y tu ôl i ardaloedd diogel, wedi'u diogelu gan gyfrinair, fel porth rhieni.

Gwnewch yn siŵr bod metadata delweddau yn cael ei ddileu

Tynnwch ddata lleoliad a mathau eraill o fetadata cyn uwchlwytho delweddau.

Defnyddiwch ddelweddau cydraniad is

Dylech leihau cydraniad delweddau er mwyn cyfyngu ar y gallu i’w hailddefnyddio.

Dylech gryfhau gosodiadau preifatrwydd ar lwyfannau’r ysgol

Rhowch osodiadau preifatrwydd llym i reoli mynediad a’r gallu i rannu delweddau (gweler rhestrau gwirio cyfryngau cymdeithasol y South West Group for Learning (SWGfL) (Saesneg yn unig). Sicrhewch fod eich dull gweithredu yn cyd-fynd â pholisi cyfryngau cymdeithasol unrhyw awdurdod lleol neu sefydliad.

Dilynwch bolisïau defnyddio delweddau sefydledig

Cysonwch y defnydd o ddelweddau â pholisïau diogelu data a sicrhau:

  • bod y gweithdrefnau cydsynio yn gyfredol
  • bod gan blant a phobl ifanc lais yn eich dull gweithredu

Cofiwch gynnwys ymwybyddiaeth o ddiogelwch delweddau mewn hyfforddiant staff

Hyfforddwch staff ar:

  • rannu delweddau yn ddiogel
  • risgiau sy'n dod i'r amlwg
  • rheoli cynnwys ar-lein mewn modd cyfrifol (gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau)

Ystyriwch y defnydd o ddelweddau o staff

Meddyliwch am sut rydych chi'n rheoli delweddau neu fideos o staff ar-lein.

Ymgysylltwch â rhieni a gofalwyr

Cyfathrebwch â theuluoedd am: 

  • ddiogelu delweddau o ddysgwyr 
  • mynd i'r afael â risgiau digidol

Sicrhewch fod eich disgwyliadau diogelu yn glir mewn perthynas â delweddau a fideos o'ch dysgwyr a dynnwyd yn ystod y diwrnod ysgol sy’n cael eu postio gan deuluoedd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol. Esboniwch bwysigrwydd diogelu preifatrwydd a diogelwch pob plentyn yn yr ysgol.

Adolygwch a sicrhewch bolisïau a phrosesau effeithiol

Gwnewch yn siŵr bod yr holl staff yn deall:

  • eu cyfrifoldebau 
  • sut i ymateb i ddigwyddiadau

Canllawiau ar sut i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth ar gael ar Hwb. Mae gan SWGfL bolisïau diogelu ac amddiffyn plant cysylltiedig (Saesneg yn unig). Dylai gweithdrefnau nodi llwybrau uwchgyfeirio clir, gan gynnwys adrodd i:

  • yr heddlu 
  • yr Internet Watch Foundation (Saesneg yn unig) (mewn achosion lle ceir amheuaeth o ddelweddau neu fideos o gam-drin plant yn rhywiol)

Gweithiwch gyda phartneriaid diogelwch ar-lein dibynadwy

Sicrhewch fod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gydweithio â sefydliadau fel:

Rheoli data delweddau

Mae Fformat Ffeil Delwedd Cyfnewidiadwy (EXIF) yn storio metadata am ddelweddau, gan gynnwys:

  • dyddiad
  • amser
  • lleoliad 
  • gwybodaeth am ddyfais

Tynnwch y metadata hwn cyn uwchlwytho delweddau i lwyfannau cyhoeddus. 

Hefyd, gwiriwch unrhyw destun amgen am wybodaeth adnabyddadwy.

Canllaw i gael gwared ar fetadata EXIF

Windows

  1. Cliciwch fotwm de’r llygoden ar ffeil y ddelwedd a dewiswch ‘Properties’ ac yna’r tab ‘Details’
  2. Cliciwch 'Remove Properties' a 'Personal Information' ar y gwaelod.
  3. Dewiswch greu copi gyda'r holl briodweddau wedi'u dileu neu ddileu'r priodweddau a ddewiswyd.
  4. Gwiriwch y ffeil sy'n deillio o hynny i sicrhau bod y metadata wedi cael ei ddileu.

MacOS

  1. Agorwch y ddelwedd yn 'Preview’.
  2. Cliciwch 'Ffeil > Export'.
  3. Gwnewch yn siŵr nad yw'r blwch ‘Include Location Information' wedi'i dicio.
  4. Sicrhewch nad yw teitl y ddelwedd yn cynnwys gwybodaeth adnabyddadwy.
  5. Cliciwch 'Save' a gwiriwch y ffeil sy'n deillio o hynny.