Data, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar ddata, preifatrwydd a chydsynio ar-lein.
- Rhan o
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae deall diogelu data, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein yn hanfodol mewn byd digidol. Bob tro y byddwn yn mynd ar-lein - i chwilio am wybodaeth, siopa, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, anfon negeseuon e-bost - rydym yn rhannu gwybodaeth amdanom ni ein hunain. Mae rhannu ein data yn ein helpu i gael gafael ar wybodaeth, defnyddio gwasanaethau ac aros mewn cysylltiad â'n teulu, ffrindiau a chymunedau.
Mae AI cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i bweru sgwrsfotiau rhyngweithiol a gwasanaethau ar-lein eraill. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall y risgiau posibl i'w preifatrwydd ac yn gwybod beth yw eu hawliau diogelu data dan GDPR y DU a'r ffordd y mae angen i wasanaethau ar-lein ddilyn cyfres o safonau (Saesneg yn unig) wrth ddefnyddio eu data (a elwir y Côd Plant Saesneg yn unig).
Canllawiau Llywodraeth Cymru
-
Canllawiau i ysgolion roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith
Cymorth i ysgolion wrth iddyn nhw roi’r strategaeth rheoli gwybodaeth a chyngor ac argymhellion o ran diogelu data.
-
Canllawiau i gefnogi ysgolion gyda diogelwch delweddau o ddysgwyr
Canllawiau i roi camau ymarferol i ysgolion er mwyn rheoli delweddau a fideos o ddysgwyr yn ddiogel, gan fynd i'r afael â risgiau o dechnolegau newydd a rhannu cyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol.
- Canllawiau
Barn yr arbenigwyr
-
Trin plant yn wahanol mewn byd digidol
Helen Thomas, Uwch Swyddog Polisi (Cymru) yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Adnoddau
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi ysgolion a’r gymuned ysgol ehangach gyda data, preifatrwydd a chydsyniad ar-lein.