English

Platfform adrodd straeon cymdeithasol am ddim yw Wattpad sy'n caniatáu i’w ddefnyddwyr: 

  • gysylltu â chynnwys o dros 20 o wahanol genres o bob cwr o'r byd a’i ddarllen
  • creu a rhannu eu straeon gwreiddiol eu hunain am ddim
  • rhannu sylwadau a negeseuon gyda defnyddwyr eraill
  • dod o hyd i ddefnyddwyr eraill sydd â diddordebau tebyg
  • ennill dilynwyr

Gall awduron uwchlwytho rhannau bach o'u gwaith ar y tro, sy'n caniatáu iddyn nhw fyfyrio ar yr adborth maen nhw'n ei gael cyn ysgrifennu mwy.

Mae'r platfform hefyd yn adnabyddus am ei ffuglen ‘cefnogwyr’, lle mae awduron amatur yn creu testunau ffuglennol sy'n cynnwys cymeriadau o ddiwylliant poblogaidd.

Yn ôl telerau gwasanaeth Wattpad, yr oedran lleiaf i ddefnyddio'r platfform yw 13. Fodd bynnag, mae Apple App Store yn gosod Wattpad yng nghategori 17+ oherwydd aeddfedrwydd rhywfaint o'r cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar y wefan.

Nid oes proses gwirio oedran wrth greu cyfrif Wattpad. Mae'r platfform yn dibynnu ar hunan-gofnodi. Nid yw defnyddwyr o dan 17 oed yn gallu cyrchu cynnwys aeddfed, felly dylech oruchwylio'ch plentyn wrth iddo greu ei gyfrif i sicrhau ei fod yn nodi'r dyddiad geni cywir.

Reading list 

Rhestr gyhoeddus o’r straeon y mae defnyddwyr wedi’u darllen neu yr hoffai darllenwyr eu darllen. Mae’n cael ei harddangos ar broffil y defnyddiwr a gellir ei defnyddio i wneud cysylltiadau rhwng defnyddwyr ar y platfform.

Library 

Lle preifat ar gyfer cofnodi llyfrau neu straeon y mae defnyddiwr wedi’u darllen neu wrthi'n eu darllen ar hyn o bryd.

Premium+ 

Gwasanaeth am dâl y gall defnyddwyr ei brynu i ddatgloi rhai llyfrau a straeon, nodweddion a darllen heb hysbysebion. 

Paid stories 

Gall defnyddwyr ennill arian o'r cynnwys maen nhw'n ei bostio ar y platfform gan ddefnyddio ‘paid stories’.

Coins 

Dyma'r arian cyfred yn ap Wattpad, y gall defnyddwyr ei roi i awduron am straeon maen nhw'n eu hoffi. Rhaid defnyddio arian go iawn i brynu ‘Coins’.

Vote 

Ffordd i ddefnyddwyr ddangos eu cefnogaeth i'r ysgrifennwr.

Tags 

Mae hyn yn categoreiddio’r cynnwys ar y platfform ac yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio'r tagiau i ddod o hyd i'r math o gynnwys sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Crewyr sy'n gyfrifol am ychwanegu'r tagiau priodol at eu cynnwys.

New adult

Mae hyn yn cyfeirio at gategori o straeon sy'n cynnwys straeon erotig, rhamantus a pherthynas ac sydd fel arfer yn cynnwys naratif rhywiol ac iaith oedolion.

Exclusive Chapter 

Estyniadau i'r stori ar ffurf rhaghanesion, dilyniannau, diweddglo gwahanol neu beth bynnag y mae'r awdur yn dymuno iddyn nhw fod. Gellir cyrchu'r rhain trwy danysgrifiad taledig i awdur. 

Writer subscriptions 

Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr danysgrifio i gyfrifon awduron penodol i gael mynediad diderfyn ac unigryw i'r holl bethau ychwanegol ar eu straeon am ffi sefydlog bob mis.

Sgiliau creadigol

Gall unrhyw un ysgrifennu ar Wattpad am ddim, sy'n golygu y gall pobl ifanc ei ddefnyddio i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a rhannu eu straeon eu hunain. Mae’r ffaith bod pob pennod Wattpad yn fyr yn golygu ei fod yn hydrin a gall gadw cymhelliant eich plentyn wrth ysgrifennu. Gall adborth gan sylwebwyr ei helpu i wella ei waith.

Annog llythrennedd

Mae Wattpad yn cynnig deunydd darllen am ddim o bob cwr o'r byd i’w ddefnyddwyr. Gall hyn annog eich plentyn i:

  • ddarllen mwy
  • gwella ei eirfa a'i ddealltwriaeth darllen
  • datblygu ei sgiliau meddwl beirniadol

Cynnwys amhriodol

Gyda chymaint o gynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr ar gael ar Wattpad, mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys amhriodol. Gallai hyn fod trwy'r straeon eu hunain, ond hefyd trwy enwau proffil, teitlau llyfrau neu straeon amhriodol a sylwadau amhriodol gan ddefnyddwyr.

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â chynnwys amhriodol.

Analluogi cynnwys aeddfed

Yn yr adran 'Content Preferences' yng ngosodiadau Wattpad, gallwch analluogi cynnwys aeddfed. Bydd hyn yn atal straeon â chynnwys anweddus a themâu oedolion rhag cael eu dangos i'ch plentyn.

Defnyddio tagiau

Mae'n ofynnol i awduron ar y platfform 'dagio' eu straeon, i helpu darllenwyr i ddod o hyd i straeon a fyddai o ddiddordeb iddyn nhw. Anogwch eich plentyn i osgoi straeon sy'n cynnwys tagiau aeddfed. Gallwch hefyd flocio tagiau penodol yn y gosodiadau, er mwyn atal eich plentyn rhag gweld straeon gyda'r tagiau hyn.

Cysylltu â defnyddwyr eraill

Gall defnyddwyr wneud sylwadau cyhoeddus ar y straeon maen nhw wedi'u darllen. Gallan nhw hefyd siarad yn breifat gan ddefnyddio nodwedd 'Messages', nad oes modd ei hanalluogi. Gallai eich plentyn gael sgyrsiau preifat gyda rhywun nad yw'n ei adnabod neu gael sylwadau sarhaus am ei straeon.

Er mwyn lleihau effaith cyswllt gan ddieithriaid, gallwch gymryd y camau canlynol.

Siarad â'ch plentyn

Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy o fewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych os gofynnwyd cwestiynau personol iddo ac i riportio unrhyw un sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus. 

Archwilio offer blocio a riportio

Dysgwch eich plentyn sut mae blocio a riportio defnyddwyr ar Wattpad. Bydd hyn yn atal y defnyddiwr rhag cysylltu â'ch plentyn a gall wneud y platfform yn fwy diogel i bawb.

Gorwariant

Mae gan Wattpad ei arian cyfred ei hun yn yr ap o'r enw 'Coins'. Gall defnyddwyr: 

  • ennill 'Coins' trwy wylio hysbysebion fideo
  • prynu 'Coins' trwy gyfrifon Google neu Apple
  • defnyddio eu 'Coins' ar Wattpad i ddatgloi 'Paid stories'

Gallwch gymryd camau i atal eich plentyn rhag gorwario.

Siarad â'ch plentyn

Siaradwch â'ch plentyn am bryniannau yn yr ap i sicrhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu o fewn yr ap. Cymharwch yr arian mae'n ei wario ar yr ap â phethau y gallai eu prynu yn y byd go iawn i'w helpu i ddeall gwerth arian.

Gosod cyfyngiadau prynu

Yn y gosodiadau ar ddyfais Android neu iOS eich plentyn, gallwch osod cyfyngiadau prynu i atal eich plentyn rhag gwario arian ar Wattpad heb eich caniatâd.

Os ydych chi'n poeni am les eich plentyn wrth ddefnyddio Wattpad, gall y gosodiadau hyn helpu i'w gadw'n ddiogel.

Cuddio cynnwys aeddfed

Yng ngosodiadau Wattpad, gallwch ddiffodd cynnwys aeddfed i atal cynnwys gyda themâu anweddus ac oedolion rhag cael eu dangos i'ch plentyn.

Cuddio cynnwys aeddfed (gwefan)

  • Ar wefan Wattpad, dewiswch lun proffil eich plentyn ar frig y sgrin ar y dde.
  • Pan fydd y gwymplen yn ymddangos, dewiswch 'Settings'.
  • Y tu mewn i'r gosodiadau, dewiswch 'Content Preferences'.
  • O dan bennawd 'Mature Content', newidiwch y togl i 'OFF'.

Cuddio cynnwys aeddfed (ap)

  • Yn ap Wattpad, dewiswch lun proffil eich plentyn ar frig y sgrin ar y dde.
  • Dewiswch eicon y gêr ar frig y sgrin ar y dde.
  • O dan bennawd 'PRIVACY & SAFETY', dewiswch 'Content preferences'.
  • Diffoddwch y togl wrth ymyl 'Show mature stories'.

Analluogi gwariant yn yr ap

Yng ngosodiadau system dyfais Android neu iOS eich plentyn, gallwch ddewis analluogi gwariant sydd heb ei wirio yn yr ap. Mae hyn yn atal eich plentyn rhag gorwario ar Wattpad.

Analluogi pryniannau yn yr ap (ar iOS)

  • Gyda ‘Screen Time’ wedi'i alluogi, ewch i 'Settings'.
  • Agorwch 'Screen Time' a dewiswch 'Content & Privacy Restrictions'.
  • Trowch y togl ymlaen wrth ymyl 'Content & Privacy Restrictions'.
  • Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
  • Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch 'Don’t Allow'.

 Analluogi pryniannau yn yr ap (ar Android)

  • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
  • Dewiswch eicon y proffil.
  • Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
  • Dewiswch ‘Purchase verification’.
  • Dewiswch ‘Verification frequency’.
  • Gosodwch ef i ‘Always’ a dewiswch ‘OK’.

Archwilio offer blocio a riportio

Dangoswch i'ch plentyn sut i ddefnyddio nodweddion blocio a riportio Wattpad a dysgwch iddo pryd y dylai ddefnyddio'r offer hyn.

Riportio stori 

  • Dewch o hyd i'r stori rydych chi am ei riportio a dewiswch yr eicon 3 dot ar y brig. 
  • Dewiswch 'Report'.
  • Dewiswch y rheswm yr hoffech riportio’r stori o blith yr opsiynau a roddir:
    • 'Inappropriate content'
    • ‘Copyright infringement’
  • Ychwanegwch sylwadau ychwanegol i gefnogi eich adroddiad. 
  • Dewiswch 'Report' i'w gwblhau.

Riportio defnyddiwr 

  • Dewch o hyd i'r defnyddiwr yr hoffech ei riportio a dewiswch yr eicon 3-dot. 
  • Dewiswch 'Report'. 
  • Rhowch eich rheswm pam rydych chi am riportio’r defnyddiwr hwn, gan ychwanegu sylwadau ychwanegol i gefnogi eich adroddiad. 
  • Dewiswch 'Report' i gwblhau cyflwyno'r adroddiad.

Blocio defnyddiwr

  • Dewch o hyd i'r defnyddiwr yr hoffech ei flocio a dewiswch yr eicon 3-dot. 
  • Dewiswch ‘Block [username]’. 
  • Dewiswch 'Block' eto i gadarnhau.