Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Pinterest', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Mae Pinterest yn blatfform cyfryngau cymdeithasol sy'n galluogi defnyddwyr i greu eu byrddau pin rhithwir eu hunain yn arbennig ar gyfer eu diddordebau. Diben yr ap yw i ddefnyddwyr 'binio' lluniau neu fideos ysbrydoledig i'w 'Boards' gwahanol, gan drefnu eu syniadau fesul thema. Mae themâu 'Board' cyffredin yn cynnwys steilio cartrefi, ryseitiau ac ysbrydoliaeth ar gyfer dillad, ond gyda thros biliwn o 'Pins' ar y platfform, mae cynnwys ar gael ar gyfer bron pob diddordeb. Gall 'Boards' fod yn gyhoeddus neu'n breifat, gan ganiatáu i ddefnyddwyr eraill ar y platfform 'Follow' y byrddau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.
Gall defnyddwyr hefyd chwilio ar y platfform am syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer eu gwahanol brosiectau neu ddiddordebau, yn ogystal â chael cynnig ffrwd bersonol o gynnwys yn yr adran 'Browse'. Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar Android ac iOS, gyda thros 430 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd.
Sgôr oedran swyddogol
Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Pinterest yw 13, ond nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.
Mae proffilau defnyddwyr dan 16 yn awtomatig yn cael proffiliau preifat sy’n cyfyngu ar eu rhyngweithio â defnyddwyr anhysbys a chynnwys. Bydd angen i ddefnyddwyr a gofrestrodd dan 18 oed, ac sy’n ceisio newid eu hoedran, ddilysu eu hoedran gyda dogfen a gyflwynwyd gan y llywodraeth.
Mae wedi cael sgôr oedran o 12+ ar yr Apple App Store a 'Mature 17+' ar Google Play Store.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Mae Pinterest yn apelio at bobl ifanc gan ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn canolbwyntio ar luniau a fideos, rhywbeth mae llawer o bobl ifanc yn ei fwynhau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae'r cyfoeth o gynnwys sydd ar gael yn golygu ei bod hi'n hawdd i bobl ifanc archwilio eu diddordebau a chael eu hysbrydoli gan eraill. Yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae'r elfen gymdeithasol yn canolbwyntio llai ar gysylltu'n bersonol â defnyddwyr eraill, a mwy ar gael ysbrydoliaeth ganddyn nhw drwy eu delweddau.
Yn aml mae'r cynnwys ar Pinterest yn cael ei guradu'n helaeth neu’r lluniau’n cael eu tynnu gan ffotograffwyr proffesiynol. Mae rhai pobl ifanc yn teimlo y gall ansawdd proffesiynol y delweddau a'r fideos ar Pinterest arwain at wneud iddyn nhw deimlo nad yw eu bywydau cystal â'r hyn maen nhw'n ei weld ar y platfform.
Nodweddion allweddol a therminoleg
-
Lluniau mae defnyddwyr wedi'u 'pinio' (cadw) i'w 'Board'.
-
Y weithred o ddefnyddwyr yn cadw 'Pins' i'w 'Boards'.
-
Gall defnyddwyr greu eu 'Boards' eu hunain y gallan nhw ychwanegu 'Pins' atyn nhw. Gall defnyddwyr fod â 'Boards' gwahanol ar gyfer eu gwahanol ddiddordebau neu brosiectau. Gall 'Boards' fod yn gyhoeddus neu'n breifat a gellir eu rhannu ac ychwanegu atyn nhw gyda ffrindiau hefyd.
-
Dyma lle bydd defnyddwyr yn gweld 'Pins', pobl a busnesau mae'r platfform yn meddwl y bydd defnyddiwr yn eu hoffi neu â diddordeb ynddyn nhw. Yma, bydd defnyddwyr yn gweld 'Pins' gan y bobl a'r 'Boards' maen nhw'n eu dilyn hefyd.
-
Mae'r nodwedd hon yn debyg i'r ffrwd 'Browse' ond, yn lle 'Pins' a lluniau, mae'n cynnwys fideos.
-
Tudalen sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i ddefnyddwyr ar ‘Boards’ neu feysydd pwnc maen nhw wedi dangos diddordeb ynddyn nhw o’r blaen ar yr ap. Mae hefyd yn galluogi defnyddwyr i weld y sylwadau neu’r lluniau diweddaraf sydd wedi’u hychwanegu gan ddefnyddwyr eraill i biniau rydych chi wedi’u creu.
-
Mae’r nodwedd hon yn galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon uniongyrchol at ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Gall defnyddwyr newid pwy sy’n gallu anfon negeseuon atoch trwy newid gosodiadau caniatâd cymdeithasol.
-
Lle gall defnyddwyr wneud sylwadau ar 'Pins’.
-
Dyma lle mae defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at safleoedd allanol i brynu eitemau tebyg i'r 'Pins' maen nhw wedi chwilio amdanyn nhw.
-
Mae hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr roi cynnig rhithwir ar gynhyrchion fel colur neu addurniadau’r cartref maen nhw’n ei weld mewn pin neu hysbyseb ar Pinterest. Noder mai dim ond ar ddyfeisiau symudol defnyddwyr sydd wedi rhoi caniatâd i Pinterest gael mynediad at gamera’r ddyfais neu, ar ddyfeisiau Android, os ydych chi wedi lawrlwytho Google Play Services ar gyfer AR, y mae’r nodwedd hon ar gael.
-
Yr adran hon o'r ap yw lle gall defnyddwyr bostio eu 'Pin' eu hunain trwy dynnu eu lluniau eu hunain neu greu 'Board'. Gall defnyddwyr ddewis gwneud eu 'Pins' a'u 'Bwrdd' yn breifat.
-
Gall defnyddwyr 'Follow' cyfrifon eraill ar y platfform y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.
-
Nodwedd yn Pinterest sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wneud eu byrddau’n breifat fel mai dim ond nhw ac unrhyw ddefnyddwyr y maent wedi dewis eu gwahodd sy’n gallu eu gweld. Mae’r byrddau hyn yn ymddangos ar broffil defnyddiwr gydag eicon clo ar ochr chwith uchaf y ddelwedd clawr.
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae Pinterest yn adnabyddus am ei gasgliad o ddelweddau a fideos ysbrydoledig sy'n aml yn edrych yn berffaith. Yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill sy'n seiliedig ar ddelweddau, nid yw'r delweddau hyn yn canolbwyntio ar bobl a phroffiliau unigol yn aml, ond yn hytrach ar ddiddordebau penodol fel ffasiwn a steilio cartrefi. Fodd bynnag, mae'r delweddau hyn yn aml wedi'u golygu neu eu curadu'n helaeth i edrych yn berffaith.
Gall gweld gormod o'r delweddau hyn a sgrolio'n gyson drwy gynnwys wedi'i olygu'n helaeth effeithio'n negyddol ar rai defnyddwyr, gan wneud iddynt deimlo nad yw eu bywydau neu eu heitemau materol cystal â'r rhai maen nhw'n eu gweld ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae'r cynnwys ar y platfform wedi'i olygu i gael pobl i'w 'hoffi' a dangos diddordeb, ac na ddylai eu cymharu â'i fywyd ei hun.
Gyda'r fath gyfoeth o gynnwys ar gael ar y platfform, mae'n bosibl y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys sy'n amhriodol iddo mewn rhyw ffordd. Er nad yw'r platfform yn caniatáu rhai mathau o gynnwys, fel noethni neu gynnwys treisgar, mae'n ymddangos ar y platfform, yn aml o dan ddisgrifiadau 'Pin' camarweiniol. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi gweld cynnwys sydd wedi peri gofid iddo ar y platfform.
Mae posibilrwydd hefyd y gall eich plentyn dderbyn cynnwys amhriodol drwy’r nodwedd ‘Messages’ neu ‘Comments’ ar yr ap. Er mwyn lleihau’r risg y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys amhriodol yn swyddogaeth negeseuon yr ap, gallwch olygu pwy gaiff anfon negeseuon at eich plentyn yn y gosodiadau neu sefydlu rheolaethau rhieni ar y cyfrif. Trwy gyfyngu ar bwy gaiff anfon neges at eich plentyn drwy’r ap, mae’ch plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad sy’n anaddas ar gyfer ei oed neu ei ddatblygiad. Fodd bynnag, dylid cydnabod na fydd hyn yn atal ei ‘ffrindiau’ neu gysylltiadau hysbys rhag rhannu cynnwys amhriodol gyda’ch plentyn. I gael gwybodaeth am sut i gyfyngu ar bwy gaiff anfon neges at gyfrif eich plentyn, ewch i’r adran ‘Managing interactions and content’ yn y canllaw hwn.
Cysylltu ag eraill
Y brif ffordd y gall defnyddwyr gyfathrebu â’i gilydd trwy Pinterest yw trwy wneud sylwadau ar ‘binnau’ neu anfon negeseuon uniongyrchol at ei gilydd. Gyda’r ddwy nodwedd, gall pobl ddieithr gysylltu â’ch plentyn os nad yw’r gosodiadau preifatrwydd cywir ar waith. Mae modd rhannu Byrddau a Phinnau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill hefyd. Mae hyn yn rhoi dolen i Pinterest Board ar y platfform dewisol ac yn caniatáu i bobl eraill sy’n gweld hwn fynd i’w cyfrif Pinterest hefyd. Yn dibynnu ar y platfform, a’r gosodiadau diogelwch sydd ar waith arno, gall defnyddwyr ddewis gadael i eraill gysylltu â nhw ar y platfformau hynny hefyd. Er bod y gosodiadau diofyn ar gyfer defnyddwyr o dan 16 oed yn gyfyngedig, dylai rhieni gofio bod modd i’w plentyn eu newid i wneud ei broffiliau’n gyhoeddus ac yn hygyrch i ddefnyddwyr eraill.
Siaradwch â’ch plentyn i sicrhau ei fod yn gwybod y risgiau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu â phobl nad yw’n eu hadnabod ar-lein a gweithiwch gyda’ch plentyn i osod y gosodiadau negeseuon priodol i helpu i reoli pwy gaiff gysylltu â’ch plentyn ar y platfform. Rydym hefyd yn argymell bod rhieni’n siarad â’u plentyn am bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar eu proffil neu o fewn negeseuon. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu os yw cynnwys neges neu sylw wedi gwneud iddo deimlo’n annifyr.
Ymddygiad defnyddwyr
Gan fod Pinterest yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys personol ar ffurf 'Pins' a 'Boards' personol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n briodol i'w rannu ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu ar-lein a'r effaith barhaol y gallai unrhyw beth y mae'n ei bostio ei chael arno ef a'i ddyfodol. Gall y nodwedd 'Comments' ar y platfform alluogi defnyddwyr i weld cynnwys niweidiol hefyd. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw sylwadau niweidiol ar y platfform wedi effeithio arno a gofalwch ei fod yn gwybod sut i flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy'n ymddwyn yn amhriodol.
Dyluniad, data a chostau
Mae Pinterest yn blatfform apelgar ac weithiau gall defnyddwyr dreulio oriau ar y tro yn sgrolio drwy'r cynnwys amrywiol, gan binio eitemau i'w gwahanol 'Boards'. Bwriad y platfform yw cadw diddordeb defnyddwyr, gan gynnig cynnwys wedi'i deilwra yn yr adran 'Browse' y mae'r platfform yn credu y bydd gennych chi ddiddordeb ynddo. Yn aml, nid oes gan blant a phobl ifanc y sgiliau i hunan-reoleiddio eu hamser yn sgrolio a chymryd seibiant o'r platfform.
Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgrolio drwy'r amser ac anogwch ef i gymryd amser seibiannau rheolaidd o'r platfform. Mae'r platfform yn cynnwys hysbysebion hefyd, yn ogystal â dolenni i safleoedd allanol, lle gall defnyddwyr brynu eitemau tebyg i'r rhai mewn delweddau neu fideos maen nhw wedi'u pinio. Argymhellir bod defnyddwyr yn gwirio'r gosodiadau 'Data personalisation' er mwyn helpu i reoli'r hysbysebion a'r cynnwys personol maen nhw'n ei weld. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn yn yr adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' yn y canllaw hwn.
Sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel
-
Mae Pinterest yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud eu cyfrifon yn breifat. Mae’r nodwedd hon yn eu galluogi i adolygu eu dilynwyr ac i’w proffil gael ei guddio oddi wrth unrhyw un sydd ddim yn ei ddilyn ac oddi wrth beiriannau chwilio. Gall defnyddwyr hefyd wneud eu byrddau yn breifat a defnyddio gosodiadau eraill i ddiogelu eu preifatrwydd.
I wneud cyfrif yn breifat (ar y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’.
- dewiswch ‘Profile visibility’ ar ochr chwith y sgrin
- toglwch yr opsiwn wrth ymyl ‘Private profile’ fel ei fod ymlaen
- byddwch wedyn yn cael opsiwn naid i adolygu eich dilynwyr
- dewiswch ‘Not now’ i’w gau
I wneud y cyfrif yn breifat (Android ac iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar y gornel chwith uchaf i agor ‘Settings’.
- dewiswch ‘Profile visibility’
- toglwch y switsh wrth ymyl ‘Private profile’ fel ei fod ymlaen.
- byddwch wedyn yn cael opsiwn naidlen er mwyn gallu edrych ar eich rhestr dilynwyr. Dewiswch ‘Not now’ i gau.
I guddio eich cyfrif o beiriant chwilio (Android ac iOS):
- ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot
- dewiswch 'Settings' a dewiswch 'Privacy and data’
- symudwch dogl yr opsiwn 'Search privacy' i'r safle ymlaen a dewiswch 'I understand’
I guddio eich cyfrif o beiriant chwilio (y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’.
- dewiswch ‘Profile visibility’ ar ochr chwith y sgrin.
- toglwch yr opsiwn ‘Search privacy’ a dewis ‘I understand’.
I greu bwrdd cudd:
- o broffil y cyfrif dewiswch yr eicon ‘+' yna dewiswch ‘Board'
- toglwch ar yr opsiwn ‘Make this board secret’
I newid bwrdd i fod yn un cudd:
- agorwch y bwrdd rydych chi am ei wneud yn un cudd trwy ddewis yr eicon tri dot
- dewiswch ‘Edit board’
- toglwch y opsiwn neu dewiswch y blwch wrth ymyl ‘Keep this board secret’ i ‘On’
-
Mae rhai gosodiadau ar gael i helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys. Fodd bynnag, nid oes gosodiad i reoli pwy all anfon negeseuon atoch chi. Mae rhieni a gofalwyr yn gallu gosod cod mynediad rhieni. Bydd y gosodiad hwn yn caniatáu i rieni a gofalwyr addasu rhai gosodiadau penodol ar gyfer cyfrif eu plentyn, fel pwy sy’n gallu anfon neges ato/ati neu @sôn amdano, yn ogystal â phwy sy’n gallu gadael sylw ar ei gynnwys, a’r mathau o argymhellion siopa mae’n ei dderbyn.
I guddio 'Pins':
- chwiliwch am y 'Pin' rydych chi am ei guddio
- pwyswch a daliwch nes bod eiconau gwahanol yn ymddangos
- wrth ddal y 'Pin', dewiswch yr eicon 'Hide' (bydd hyn yn dileu cynnwys tebyg o'ch ffrwd 'Browse')
I reoli hysbysebion a data (Android ac iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’.
- dewiswch 'Privacy and data’
- symudwch dogl yr opsiynau yn yr adran 'Ads personalisation' i'r safle i ffwrdd
I reoli hysbysebion a data (y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’
- dewiswch ‘Privacy and data’ ar ochr chwith y sgrin.
- symudwch dogl yr opsiynau yn yr adran ‘Ads personalisation’ i’r safle i ffwrdd.
I reoli cysylltiadau (Android ac iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’.
- dewiswch 'Privacy and data’
- symudwch dogl yr opsiwn 'Store your contacts’ i'r safle i ffwrdd
I hidlo sylwadau (Android ac iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions and activity’
- sgroliwch i ‘Filter comments on others’ pins’ a throwch y dewis hwn ymlaen
- bydd cwymplen yn ymddangos a gallwch ysgrifennu’r geiriau neu’r ymadroddion rydych chi am eu blocio
I hidlo sylwadau (Web):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’ ar ochr chwith y sgrin.
- symudwch y togl ar ‘Filter comments on my pins’ fel ei fod ymlaen.
- bydd bocs cwymplen yn ymddangos, lle allwch chi ysgrifennu’r geiriau neu’r brawddegau rydych chi am eu blocio.
I analluogi sylwadau ar eich ‘pinnau’ (Android ac iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’.
- symudwch y togl ar ‘Allow comments on your pins’ fel ei fod i ffwrdd.
I analluogi sylwadau ar eich ‘pinnau’ (y we): - dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’ ar ochr chwith y sgrin.
- symudwch y togl ar ‘Allow comments on your pins’ fel ei fod i ffwrdd.
I reoli gosodiadau negeseuon (Android and iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’
- dewiswch ‘Social permissions and activity’
- dewiswch ‘Message settings’ a gweithiwch drwy’r dewisiadau a restrir
I reoli gosodiadau negeseuon (Web):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewis ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’ ar ochr chwith y sgrin.
- sgroliwch i ‘Messages’ ac ewch drwy’r opsiynau sydd wedi’u rhestru.
I greu cod mynediad rhieni (ar y we):
- o gyfrif eich plentyn, dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin ac yna
- dewiswch ‘Account management’ o'r rhestr i'r chwith o'r sgrin
- cliciwch ar ‘Add code’ wrth ymyl ‘Parental Passcode’
- rhowch god pedwar digid a'ch cyfeiriad e-bost yna dilynwch y cyfarwyddiadau i gadarnhau
- ds: bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif e-bost a gwirio e-bost cadarnhau gan Pinterest.
I greu cod mynediad rhieni ar ddyfais symudol (Android ac iOS):
- o gyfrif eich plentyn, dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith ucha’r sgrin.
- dewiswch ‘Account management’
- dewiswch ‘Parental passcode’ yna rhowch god pedwar digid ac yna'ch cyfeiriad e-bost
- dewiswch ‘Set passcode’ i gadarnhau eich dewis
- ds: bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif e-bost a gwirio e-bost cadarnhau gan Pinterest.
-
Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.
I 'Block' neu 'Report' defnyddiwr:
- chwiliwch am broffil y defnyddiwr rydych chi am gwyno amdano
- dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Block/Report' yn ôl yr angen
- dewiswch 'Report/Block' eto i gwblhau'r broses
I 'Report a pin’:
- chwiliwch am y 'Pin' rydych chi am gwyno amdano a dewiswch yr eicon tri dot
- dewiswch 'Report' a dewiswch y rheswm pam rydych chi am gwyno am y 'Pin' o'r opsiynau a restrir:
- Spam
- Nudity or pornography
- Self-harm
- Misinformation
- Hateful activities
- Dangerous goods
- Harassment or privacy violations
- Graphic violence
- My intellectual property
I gwyno am edefyn neges:
- ewch i'ch negeseuon drwy ddewis yr eicon swigen siarad
- dewiswch yr edefyn neges rydych chi am gwyno amdano
- dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Report thread’
- dewiswch y rheswm dros eich cwyn o'r naidlen:
- This is spam
- This is harassing me or someone else
- This promotes self-harm
-
Mae gosodiadau ar Pinterest i helpu i reoli amser ar y platfform. Gallwch hefyd addasu’r argymhellion siopa er mwyn gweld llai o hysbysebion wedi’u teilwra i chi.
I reoli hysbysiadau (Android and iOS):
- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’
- sgroliwch i 'Notifications’
- sgroliwch i ‘Permissions’ a thoglo ‘Push’, ‘Email’, a ‘In-app' i’w diffodd.
I reoli gosodiadau hysbysiadau (y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewiswch ‘Settings’.
- dewiswch ‘notifications’ ar ochr chwith y sgrin.
- sgroliwch i ‘Permissions’ a thoglo ‘Push’, ‘Email’, ac ‘In-app' i’w diffodd.
I reoli argymhellion siopa ar Pinterest (Android ac iOS):- ewch i’ch cyfrif trwy ddewis yr eicon proffil ar gornel chwith ucha’r sgrin i agor ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’.
- sgroliwch i ‘Shopping recommendations’ a thoglo ‘Show similar products’ i’w ddiffodd.
I reoli gosodiadau negeseuon (y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin a dewiswch ‘Settings’.
- dewiswch ‘Social permissions’ ar ochr chwith y sgrin.
- sgroliwch i ‘Shopping recommendations’ a thoglo ‘Show similar products’ i’w ddiffodd.
-
Gall defnyddwyr ddewis rhwng dileu neu ddadactifadu eu cyfrif ar Pinterest. Mae cyfrif Pinterest wedi’i ddileu yn barhaol, ond mae modd ailagor cyfrif Pinterest wedi’i ddadactifadu unrhyw bryd.
I ddileu/dadactifadu cyfrif Pinterest (Android ac iOS):
- agorwch eich proffil trwy fynd i'ch llun proffil a dewiswch y symbol cog
- dewiswch ‘Account management’
- os ydych chi'n dadactifadu'ch cyfrif, dewiswch ‘Deactivate account’. Os ydych chi'n dileu'ch cyfrif, dewiswch ‘Delete your data and account’
- cadarnhewch eich dewis trwy ddewis ‘confirm’ yna dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir
I ddileu eich cyfrif Pinterest (ar y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin ac yna ‘Settings’.
- dewiswch ‘Account management’ ar ochr chwith y ffenestr
- dewiswch ‘Delete account’
- dewiswch ‘Continue’ a’ch rheswm dros ddileu’r cyfrif
- dewiswch ‘Send email’ i dderbyn neges e-bost i ddileu’ch cyfrif
- gwiriwch y cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif Pinterest i gadarnhau eich bod am ddileu’r cyfrif
I ddadactifadu eich cyfrif Pinterest (ar y we):
- dewiswch yr eicon cocsen/hecsagon ar gornel chwith isa’r sgrin ac yna ‘Settings’.
- dewiswch ‘Account management’ ar ochr chwith y ffenestr
- dewiswch ‘Deactivate account’
- dewiswch ‘Continue’
- dewiswch eich rheswm dros ddadactifadu’r cyfrif
- dewiswch ‘Deactivate account’
Cyngor cyffredinol
Gall Pinterest fod yn ffordd hwyliog i bobl ifanc archwilio eu diddordebau a chreu rhai newydd. Treuliwch amser gyda'ch plentyn yn archwilio'r ap i fonitro'r math o gynnwys y mae'n edrych arno ac a yw'n addas ar gyfer ei oedran neu ei gam datblygiad.
Mae gan Pinterest ganolfan gymorth lle mae defnyddwyr yn gallu dysgu sut i reoli eu preifatrwydd a’u diogelwch ar y platfform. Hefyd, mae gan Pinterest ganolfan gymorth benodol i rieni a gofalwyr. Gallant ddysgu mwy am y gosodiadau a’r adnoddau penodol sydd gan Pinterest i reoli diogelwch a phreifatrwydd eu plant. Dylai plant a phobl ifanc fynd i dudalen ‘teen safety options’ Pinterest.