Canllaw y cyfryngau cymdeithasol
Helpu eich plentyn i ddefnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.
- Rhan o
2. Risgiau posibl
Cynnwys
Gall platfformau cyfryngau cymdeithasol olygu bod defnyddwyr yn agored i gynnwys amhriodol neu sarhaus, megis cynnwys treisgar, rhywiol neu niweidiol. Mae algorithmau yn awgrymu cynnwys sy’n gysylltiedig â chwiliadau neu ryngweithiadau blaenorol defnyddiwr ar y platfform. Gall hyn arwain defnyddwyr ifanc at ddeunydd anaddas.
Ar ben hynny, mae llawer o blatfformau yn hybu golwg ddelfrydol ar fywyd, gyda hidlwyr, offer golygu a ffyrdd o fyw dylanwadwyr wedi’u curadu yn cyfrannu at broblemau delwedd y corff a heriau iechyd meddwl.
Risg arall yw gor-rannu gwybodaeth bersonol neu sensitif, gan fod defnyddwyr yn aml ddim yn ystyried goblygiadau hirdymor yr hyn maen nhw’n ei bostio ar-lein.
Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol i ledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth hefyd yn broblem. Mae’r cynnydd mewn cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan AI, gan gynnwys offer realiti estynedig, yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ddefnyddwyr wahaniaethu rhwng cynnwys sy’n real a chynnwys sy’n ffug. O ganlyniad, mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gwerthuso dilysrwydd yr hyn maen nhw’n dod ar ei draws ar-lein.
Cysylltu ag eraill
Ymgysylltu ag eraill yw prif bwrpas y cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o blatfformau yn galluogi rhyngweithio â defnyddwyr anhysbys. Mae hyn yn cynyddu’r risg o aflonyddu, ecsbloetio, camfanteisio a rhannu gwybodaeth bersonol, felly mae’n bwysig sicrhau bod y gosodiadau preifatrwydd perthnasol ar waith ar gyfrifon eich plentyn.
Gall nodweddion fel negeseuon uniongyrchol a ffrydio byw arwain at gyswllt diangen neu amhriodol, yn enwedig i ddefnyddwyr iau. Gallai nodweddion dylunio eraill eu rhoi mewn perygl hefyd, megis y defnydd o ryngweithiau seiliedig ar leoliad sy’n rhannu lleoliad byw defnyddwyr gydag eraill ar y platfform.
Mae proffiliau ffug yn broblem arall. Mae’r rhain yn aml wedi’u creu i dwyllo neu niweidio eraill.
Ymddygiad defnyddwyr
Mae bwlio a throlio yn risgiau sylweddol ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Gall y rhain cael effaith ar iechyd meddwl a lles. Gall defnyddwyr:
- cael eu targedu gyda sylwadau negyddol
- weld eu cynnwys yn cael ei rannu mewn ffyrdd sy’n eu bychanu
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod bod modd i eraill gopïo ac ailbostio’r cynnwys y mae’n ei rannu ar-lein, a gall ei gwneud hi’n anodd tynnu’r cynnwys o’r rhyngrwyd.
Mae’r platfformau wedi’u cynllunio i gadw diddordeb defnyddwyr am gyfnodau hir. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc reoli eu hamser yn effeithiol. Mae dod i gysylltiad gormodol â chynnwys neu ymddygiadau niweidiol ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn gallu golygu bod rhai defnyddwyr yn arfer â’r cynnwys, ac mae hyn yn normaleiddio gweithredoedd amhriodol neu leihau empathi. Ymgysylltwch â’ch plentyn i hyrwyddo ymddygiad iach ar-lein a chodi ymwybyddiaeth o’r materion hyn.
Dyluniad, data a chostau
Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio offer sydd wedi’u cynllunio i ddal sylw defnyddwyr neu eu denu’n ôl i’r ap. Mae’r nodweddion isod i gyd wedi’u cynllunio i gadw defnyddwyr ar blatfform neu i’w hannog i ailymweld â’r platfform:
- sgrolio diddiwedd
- gwobrwyo defnyddwyr am ddefnyddio’r ap bob dydd dros gyfnod (streak)
- cadarnhad bod rhywun wedi darllen neges (read receipt)
- hysbysiadau gwthio
Maen nhw’n casglu symiau sylweddol o ddata personol a data am ddefnydd, sy’n aml yn cael ei rannu gyda hysbysebwyr neu drydydd partïon. Defnyddir y data hwn i gyflwyno hysbysebion wedi’u targedu.
Mae llawer o blatfformau hefyd yn cynnwys nodweddion fel tanysgrifiadau a chyfle i brynu eitemau mewn apiau. Gallan nhw arwain at wariant diangen. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn ymwybodol o’r ffaith bod rhai dylanwadwyr yn cael eu talu i:
- hyrwyddo cynhyrchion a brandiau ar y cyfryngau cymdeithasol
- rhannu dolenni i siopau ar-lein