English

3. Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel

Manteisiwch ar y cyfle i archwilio apiau cyfryngau cymdeithasol y mae eich plentyn yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Dylech ddod yn gyfarwydd â gofynion isafswm oedran yr apiau, yr ystod o gynnwys a rhyngweithiadau. Bydd hyn yn eich helpu i asesu a yw’r apiau yn addas i’ch plentyn a’i gyfnod datblygu.

Dylech ddod yn gyfarwydd â dewislenni gosodiadau y platfformau cyfryngau cymdeithasol mae’ch plentyn yn eu defnyddio. Yn aml, bydd gosodiadau i reoli preifatrwydd a rhyngweithiadau, megis dewis rhwng cyfrifon cyhoeddus a phreifat, ac analluogi nodweddion rhannu lleoliad. Bydd rhai platfformau yn cynnwys nodweddion rheolaeth rhieni, a all eich helpu i oruchwylio cyfrif eich plentyn.

Helpwch eich plentyn i ddeall beth sy’n addas a ddim yn addas i’w rannu ar-lein. Mae’n bwysig esbonio bod pobl eraill yn gallu tynnu sgrinlun o unrhyw gynnwys maen nhw’n ei bostio, er mwyn ei gadw a’i rannu’n eang.  

Atgoffwch eich plentyn o bwysigrwydd gwirio’r wybodaeth maen nhw’n ei gweld ar-lein cyn ei chredu neu ei rhannu. Trafodwch risgiau proffiliau ffug a sut i’w hadnabod.

Siaradwch â’ch plentyn am y peryglon o gysylltu â dieithriaid ar-lein. Esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu:

  • unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu o fewn sgyrsiau
  • ei leoliad gyda phobl nad yw’n eu hadnabod yn y byd go iawn

Anogwch eich plentyn i sôn wrthych os:

  • gofynnwyd cwestiynau personol iddo
  • yw rhywun yn gwneud iddo deimlo’n ofidus neu’n anghyfforddus
  • gofynnwyd am ei leoliad
  • yw’n profi ymweliadau diangen gan bobl y mae wedi’u cyfarfod ar-lein 

Dysgwch eich plentyn sut i rwystro, blocio neu riportio defnyddwyr sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus neu’n gweithredu’n amhriodol. Esboniwch y gallai siarad â chi os yw’n dod ar draws sefyllfa sy’n gwneud iddo deimlo’n anniogel neu’n ofidus, fel y gallwch ei helpu i drin y mater yn briodol.