English

1. Y cyfryngau cymdeithasol

Mannau digidol yw platfformau cyfryngau cymdeithasol lle gall defnyddwyr gysylltu, rhannu a darganfod cynnwys, a rhyngweithio trwy nodweddion fel:

  • postiadau
  • fideos
  • negeseuon uniongyrchol
  • ffrydiau byw 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn hynod ddeniadol i bobl ifanc oherwydd eu natur ddeinamig a rhyngweithiol. Mae llawer o blatfformau yn cynnig cynnwys byrion difyr yn ogystal ag adnoddau i fynegi eu hunan fel hidlwyr creadigol, sticeri a nodweddion golygu. Mae negeseuon uniongyrchol yn caniatáu sgyrsiau preifat rhwng ffrindiau ar-lein.

Mae sgoriau oedran yn sicrhau bod defnyddwyr yn gweld cynnwys sy’n addas i’w hoedran. Hefyd, maen nhw’n helpu rhieni a gofalwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am yr apiau cyfryngau cymdeithasol y gall eu plant eu defnyddio.

Mae gan y rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol isafswm oedran o 13. Fodd bynnag, anaml iawn mae’r cyfyngiadau oedran hyn yn cael eu gorfodi’n drylwyr. 

Er bod gan y platfformau hyn derfynau oedran, dylai rhieni a gofalwyr gofio bod llawer o blant iau yn eu defnyddio, gyda neu heb oruchwyliaeth rhieni.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc. Maen nhw’n cynnig cymysgedd o adloniant, cysylltiad cymdeithasol a chyfleoedd ar gyfer hunan-fynegiant. 

Mae nodweddion fel lluniau, fideos, straeon, negeseuon uniongyrchol a sgyrsiau grŵp yn ei gwneud hi’n hawdd cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a phobl eraill yn eu bywydau. 

Mae tueddiadau, heriau, hidlwyr ac effeithiau yn caniatáu i ddefnyddwyr bersonoli cynnwys a mynegi creadigrwydd. 

Gall defnyddwyr hefyd ddewis y math o gynnwys maen nhw’n chwilio amdano ac yn ymgysylltu ag ef. Mae hyn wedyn yn bwydo i mewn i’w algorithm, felly unwaith y byddan nhw’n gwylio, yn hoffi neu’n rhannu cynnwys, maen nhw’n fwy tebygol o weld cynnwys tebyg yn y dyfodol.

  • Tynnu sylw at y cyfryngau cymdeithasol pdf 129 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Ymhlith y platfformau poblogaidd mae pobl ifanc yn eu defnyddio ar hyn o bryd mae: