English

2. Risgiau posib

Gall natur fyrfyfyr ac weithiau dienw sgyrsiau ar-lein apelio at blant a phobl ifanc, ond mae rhai defnyddwyr yn manteisio ar eu hanhysbysrwydd ar blatfformau sgwrsio fideo ar-lein ac apiau negeseuon i ddefnyddio iaith anweddus a rhywiol neu rannu cynnwys amhriodol a sarhaus. Hefyd, mae nifer sylweddol o ddefnyddwyr sy’n ymddangos yn noeth neu’n hanner noeth ar rai platfformau sgwrsio fideo ar-lein. Yn aml, mae’r ymddygiad hwn i fod i ddychryn defnyddwyr eraill, a gall fod yn arbennig o ofidus neu ddryslyd i blant a phobl ifanc. 

Gall pobl ifanc ddod ar draws cryn dipyn o gasineb ar-lein, radicaleiddio neu eithafiaeth hefyd yn dibynnu ar bwy maen nhw’n cysylltu â nhw. Gallai’r cysylltiadau hyn beri gofid mawr i blant a phobl ifanc ac effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles

Mae gan rai platfformau fesurau ar waith i liniaru’r risgiau hyn ond mae’r mesurau hyn yn anghyson rhwng platfformau yn aml. Gall mesurau lliniaru ar blatfformau negeseua ddibynnu ar p’un a yw’r defnyddiwr mewn sgwrs grŵp neu sgwrs negeseua uniongyrchol. O ganlyniad, ni ddylid dibynnu’n llwyr ar fesurau diogelwch y platfform dan sylw. 

Dylech holi’ch plentyn bob amser am y cysylltiadau sydd ganddo ar apiau negeseua yn enwedig platfformau fideo ar-lein. Os yw’n bosibl, sicrhewch eich bod gerllaw neu yn yr ystafell gyda nhw pan fyddan nhw’n defnyddio’r platfformau hyn.

Yn dibynnu ar yr ap negeseua, gallwch hefyd gyfyngu ar bwy all gysylltu â’ch plentyn i sicrhau mai dim ond gyda chysylltiadau hysbys mae’n siarad. Fodd bynnag, dylid cydnabod bod y cysylltiadau hyn yn gallu rhannu cynnwys anaddas hefyd.

Risg sylweddol ar blatfformau sgwrsio fideo ar-lein ac apiau negeseuon yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein, sy’n targedu defnyddwyr arbennig o agored i niwed fel plant a phobl ifanc. Gall defnyddwyr ar y platfformau hyn geisio meithrin ymddiriedaeth a chymell unigolion. Gall hyn gynnwys ceisiadau am luniau anweddus, manylion personol neu ymdrechion i orfodi defnyddwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol ar gamera. Gallai’r ceisiadau hyn ddatblygu’n flacmel rhywiol hefyd, math o flacmel lle gall defnyddwyr fygwth rhannu lluniau a fideos noeth neu hanner noeth i gysylltiadau hysbys y dioddefwr. 

Mae bwlio ar-lein ac aflonyddu yn gyffredin ar y platfformau hyn hefyd, oherwydd gall anhysbysrwydd platfformau sgwrsio fideo ar-lein a rhai apiau negeseua annog rhai defnyddwyr i ymddwyn yn sarhaus neu’n ymosodol. Er bod llawer o blatfformau’n cynnwys opsiynau i rwystro neu riportio defnyddwyr, gall aflonyddu fod yn broblem ddifrifol i lawer o hyd, yn enwedig mewn sgyrsiau grŵp. 

Mae proffiliau ffug a swyno trwy dwyll yn peri risg sylweddol hefyd ar blatfformau sy’n cynnig mwy o anhysbysrwydd a’r gallu i addasu proffil. Gan fod y platfformau hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu â dieithriaid, mae risg bob amser o ddod ar draws rhywun sy’n cam-gynrychioli eu hunain, naill ai trwy ddefnyddio ffotograffau ffug neu rai a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial neu esgus bod yn rhywun arall er mwyn camfanteisio ar eraill. Gallai’r defnyddwyr hyn ddechrau trwy geisio ennill ymddiriedaeth eu dioddefwyr, dim ond i ofyn am arian, ffafrau personol neu wybodaeth sensitif yn ddiweddarach.

Rydyn ni’n gwybod bod seiberdroseddwyr yn defnyddio apiau negeseuon a phlatfformau sgwrsio fideo ar-lein i we-rwydo. Efallai y bydd y defnyddwyr hyn yn ceisio twyllo eraill i anfon arian neu rannu gwybodaeth bersonol sensitif. Yn aml mae hyn yn cynnwys awgrymu bod sefyllfa yn fater o frys, fel creu argyfwng ffug, er mwyn rhoi pwysau ar ddefnyddiwr i weithredu yn hytrach na meddwl am y sefyllfa. Fel arall, efallai y bydd defnyddwyr hyn yn ffugio stori er mwyn cymell y defnyddiwr i gyfrannu at achos penodol.

Risg allweddol yw rhannu gwybodaeth bersonol yn ddamweiniol yn ystod sgyrsiau. Er bod rhai platfformau yn caniatáu i ddefnyddwyr aros yn ddienw, mae’n rhwydd i sgyrsiau annog defnyddwyr i ddatgelu manylion sensitif yn ddiarwybod, fel eu hysgol neu lle maen nhw’n byw. Gall y manylion hyn ganiatáu i ddefnyddiwr arall sydd â bwriad maleisus greu proffil o’r defnyddiwr ac olrhain eu cyfrifon personol, proffiliau cyfryngau cymdeithasol neu bresenoldebau ar-lein eraill. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol i blant a phobl ifanc, sydd efallai ddim yn deall pwysigrwydd cadw eu data personol yn gyfrinachol.

Risg difrifol arall yw recordio a rhannu sgyrsiau preifat. Er y gall rhai platfformau rybuddio defnyddwyr y gallai pobl eraill recordio neu gipio eu gweithredoedd, mae potensial bob amser i ddefnyddwyr eraill recordio neu gymryd sgrin lun o sgyrsiau preifat heb ganiatâd. Yna gellid defnyddio’r lluniau a’r fideos hyn i flacmelio pobl, eu golygu a’u rhannu â defnyddwyr eraill neu eu postio ar gyfryngau cymdeithasol heb ganiatâd y defnyddiwr ac yn ddiarwybod iddo, gan gyfrannu at ôl-troed digidol parhaol. 

Risg allweddol ar lawer o apiau negeseuon yw ‘derbynneb ddarllen (read receipt), sy’n dangos pryd mae neges wedi’i derbyn a’i darllen. Er y gall y nodwedd hon ymddangos yn ddiniwed, gall greu pwysau ar yr anfonwr a’r derbynnydd. I’r anfonwr, gall achosi pryder os nad ydyn nhw’n cael ateb ar unwaith, yn enwedig pan maen nhw’n gweld bod y neges wedi’i darllen. I’r derbynnydd, efallai y bydd yn teimlo pwysau i ateb ar unwaith. Gall y pwysau hwn fod yn arbennig o ddifrifol i blant a phobl ifanc, a allai fod yn dal i ddysgu sut i osod ffiniau personol gyda thechnoleg a meithrin cyfeillgarwch. 

Risg dyluniad arall ar apiau negeseua yw negeseuon sy’n diflannu. Gan fod y negeseuon hyn yn diflannu ar ôl i eraill eu gweld neu ar ôl cyfnod penodol, efallai y bydd defnyddwyr yn teimlo’n llai cyfrifol am eu gweithredoedd ac yn llai ymwybodol o ganlyniadau arferol anfon negeseuon neu gynnwys. O ganlyniad, efallai y byddan nhw’n fwy tebygol o rannu deunydd amhriodol neu sarhaus. Efallai y bydd yn anodd i blant a phobl ifanc gadw copïau o’r negeseuon hyn i ddangos i’w rhieni neu ofalwyr neu er mwyn riportio i’r awdurdodau, yn enwedig os yw’r platfform yn rhwystro sgrin luniau o’r negeseuon hyn.

Mae rhai platfformau negeseua yn annog mwy o ddefnydd gyda nodweddion fel ‘streaks’, sy’n tracio pa mor aml rydych chi’n ymgysylltu â rhai defnyddwyr neu’r ap. Er bod y broses o adeiladu ‘streak’ yn gallu bod yn hwyl i lawer o blant aphobl ifanc, mae’r pwysau i gynnal streak yn golygu’n aml eu bod yn dychwelyd i’r ap dro ar ôl tro. Mae’n bwysig atgoffa plant a phobl ifanc nad yw streak negeseuon yn adlewyrchu cryfder neu ansawdd eu cyfeillgarwch.

Er bod llawer o blatfformau sgwrsio fideo ar-lein ac apiau negeseuon yn rhad ac am ddim, mae llawer o’r platfformau hyn yn cynnig cyfleoedd cyson i brynu eitemau yn yr ap. Gall plant a phobl ifanc sy’n ddefnyddwyr brwd o’r platfformau hyn gael eu temtio gan y nodweddion ychwanegol sy’n cael eu haddo trwy brynu pethau. 

Gall faint o ddata a gesglir gan apiau negeseua amrywio. Mae rhai platfformau’n casglu llawer iawn o ddata gan ddefnyddwyr, yn enwedig y rhai sydd â llawer o nodweddion. Wrth i fwy o blatfformau integreiddio deallusrwydd artiffisial, mae perygl y gallan nhw ddefnyddio data i hyfforddi neu wella systemau deallusrwydd artiffisial platfformau.

Rhaid cofio am risg diogelu data hefyd, yn enwedig ar blatfformau sgwrsio fideo ar-lein. Gall rhai platfformau gasglu a storio fideos neu sgyrsiau heb ddigon o dryloywder neu ddiogelwch, gan adael defnyddwyr yn agored i beryglon torri preifatrwydd. Hefyd, mae telerau gwasanaeth rhai platfformau yn nodi na fyddan nhw’n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddata sy’n cael ei golli. Gall hyn adael defnyddwyr yn agored i golli rheolaeth dros ddata sensitif, fel eu lleoliad a’u hunaniaeth, i ddefnyddwyr maleisus.

  • Blaenorol

    Apiau negeseua a sgyrsiau fideo ar-lein

  • Nesaf

    Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel