Canllaw negeseua a sgyrsiau fideo ar-lein
Helpu eich plentyn i ddefnyddio apiau negeseua a sgyrsiau fideo yn ddiogel.
- Rhan o
4. Awgrymiadau ychwanegol
Dylai rhieni a gofalwyr gofio bod gan y rhan fwyaf o blatfformau sgwrsio fideo ar-lein, os nad pob un, isafswm oedran o 18. Ein cyngor ni felly, yw na ddylai plant a phobl ifanc ymweld â’r platfformau hyn.
Dylech dreulio amser yn dysgu sut mae’r apiau negeseua y mae eich plentyn yn eu defnyddio yn gweithio. Hefyd, efallai bod gan lawer o apiau a phlatfformau negeseua ‘ganolfan deulu’ sy’n caniatáu i rieni a gofalwyr alluogi gosodiadau arbennig sy’n amddiffyn eu plant ar y platfform. Gall gosod y rheolaethau rhieni hyn, a gwybod pa nodweddion a allai fod fwyaf niweidiol i’ch plentyn, fod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael profiad diogel a chadarnhaol ar y platfformau hyn.