Canllaw negeseua a sgyrsiau fideo ar-lein
Helpu eich plentyn i ddefnyddio apiau negeseua a sgyrsiau fideo yn ddiogel.
- Rhan o
3. Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel
Gosod disgwyliadau ar ymddygiad priodol wrth ddefnyddio’r platfformau hyn
Cyn caniatáu i’ch plentyn ddefnyddio platfformau sgwrsio fideo ar-lein neu apiau negeseuon, mae’n bwysig siarad am ymddygiad priodol ar-lein a phennu canllawiau clir. Dywedwch pa fathau o ryngweithio sy’n dderbyniol, fel peidio â rhannu gwybodaeth bersonol (er enghraifft enwau go iawn, cyfeiriadau neu rifau ffôn) a pheidio â chymryd rhan mewn sgyrsiau amhriodol neu anniogel.
Pwysleisiwch bwysigrwydd osgoi cynnwys rhywiol, rhegi neu iaith sarhaus a thrafod sut i drin sefyllfaoedd anghyfforddus, megis pryd i atal sgwrs a gadael y sgwrs.
Analluogi nodweddion ymgysylltu estynedig
Mae diffodd y nodwedd derbynebau darllen yn gallu rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ymateb yn eu hamser eu hunain, heb y pwysau o deimlo eu bod yn cael eu gwylio neu eu rhuthro. Mae’n helpu i leihau pryderon am beidio â chael ymateb ar unwaith ac yn annog dull mwy hamddenol o negeseua. Helpwch eich plentyn i ddysgu sut i ddiffodd y nodweddion hyn er mwyn diogelu ei iechyd meddwl wrth sgwrsio trwy apiau negeseua.
Goruchwylio’r defnydd o’r platfformau hyn
Mae goruchwyliaeth yn allweddol i sicrhau bod eich plentyn yn cael profiad diogel a chadarnhaol ar y platfformau hyn. Ystyriwch osod terfynau amser i leihau’r tebygolrwydd o gael eu swyno gan y cysylltiadau hyn a bod yn agored i gynnwys niweidiol posibl.
Gwiriwch gyda’ch plentyn yn rheolaidd. Gofynnwch i’ch plentyn am ei brofiadau ar y platfform a sut mae’n teimlo am y cysylltiadau a’r rhyngweithio a gafodd. Mae cyfathrebu agored yn hollbwysig er mwyn sylwi ar deimladau anghyfforddus neu ymddygiad amhriodol.
Addysgu am breifatrwydd a gwybodaeth bersonol ar-lein
Cofiwch addysgu’ch plentyn am bwysigrwydd cynnal preifatrwydd ar-lein. Eglurwch y gall rhannu gwybodaeth bersonol fel ei enw llawn, ysgol, cyfeiriad, rhif ffôn neu broffiliau cyfryngau cymdeithasol arwain at aflonyddu, bwlio, meithrin perthynas amhriodol neu seiberdroseddu ar-lein. Mae’n arbennig o bwysig sicrhau bod eich plentyn yn deall y gall rhannu delweddau, boed yn hunluniau neu ddelweddau mwy personol, arwain at flacmel rhywiol neu fathau eraill o flacmel.
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio llysenwau neu ffugenwau yn lle ei enw go iawn ac osgoi datgelu unrhyw fanylion adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Dywedwch wrtho i beidio byth â rhannu ei manylion cyswllt neu wybodaeth sensitif arall gyda dieithriaid.
Cael strategaeth ymadael
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod sut i adael sgwrs ar unwaith os yw’n troi’n anghyfforddus neu’n amhriodol. Mae hyn yn cynnwys dysgu sut i ddefnyddio’r botwm ‘next’ ar sgyrsiau fideo ar-lein, blocio pobl, gadael sgwrs grŵp, neu hyd yn oed gau’r ap neu’r tab os yw’r sefyllfa’n teimlo’n anniogel. Dywedwch y gall stopio’r sgwrs ar unrhyw adeg ac na ddylai fyth deimlo dan bwysau i barhau i siarad â rhywun os yw’n teimlo’n anghyfforddus. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall siarad â chi os yw sefyllfa’n teimlo’n anghyfforddus neu’n anniogel ar unrhyw adeg.
Galluogi rheolyddion rhieni a hidlwyr cynnwys
Defnyddiwch feddalwedd rheoli rhieni a gosodiadau preifatrwydd ar ddyfeisiau i gyfyngu mynediad i blatfformau neu gynnwys penodol. Mae llawer o ddyfeisiau a systemau gweithredu, fel iOS, Android neu Windows, yn caniatáu i chi sefydlu rheolaethau rhieni i gyfyngu ar ba apiau neu wefannau y gall eich plentyn eu cyrchu. Yn ogystal, efallai y bydd gan rai platfformau hidlwyr cynnwys a all helpu i rwystro cynnwys amhriodol. Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn cael eu galluogi ar blatfformau sy’n cynnig nodweddion o’r fath.
Monitro a rhwystro defnyddwyr amhriodol
Dysgwch eich plentyn sut i rwystro neu riportio defnyddwyr sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus neu sy’n ymddwyn yn amhriodol. Mae llawer o blatfformau yn darparu dulliau o riportio camymddwyn neu rwystro defnyddwyr. Anogwch eich plentyn i roi gwybod i weinyddwyr y platfform am unrhyw ymddygiad amhriodol ar unwaith, a’i helpu os yw angen cymorth i wneud hynny. Esboniwch y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws sefyllfa sy’n gwneud iddo deimlo’n anniogel neu’n ofidus, fel y gallwch ei helpu i’w thrin yn briodol.
Trafod meithrin perthynas amhriodol ar-lein
Trafodwch risgiau troseddwyr rhywiol ar-lein, a bod rhai pobl yn ceisio meithrin perthynas amhriodol â phlant a phobl ifanc trwy ennill eu hymddiriedaeth dros amser a chamfanteisio arnyn nhw i rannu gwybodaeth bersonol neu gymryd rhan mewn ymddygiad anniogel. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall sut mae cyflawnwyr yn gweithredu fel hyn, gan esgus bod yn rhywun arall neu addo cwrdd wyneb yn wyneb.
Addysgwch nhw i fod yn amheus o unrhyw un sy’n gofyn cwestiynau personol neu’n eu rhoi dan bwysau i ddatgelu mwy nag y maen nhw’n gyffyrddus yn ei wneud. Anogwch nhw i roi gwybod i chi bob amser os yw rhywun yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus.
Mae’n ddefnyddiol gwybod am sefydliadau a phartneriaid dibynadwy a all eich helpu chi a’ch plentyn ar-lein.
Pennu lle diogel i gyfathrebu
Anogwch eich plentyn i ddod atoch bob amser os bydd rhywbeth yn digwydd ar-lein sy’n teimlo’n amhriodol neu’n ofidus. Sefydlwch gyfathrebu agored ac anfeirniadol fel bod eich plentyn yn gwybod na fyddwch yn ddig os bydd yn siarad am ei brofiadau.