Canllaw negeseua a sgyrsiau fideo ar-lein
Helpu eich plentyn i ddefnyddio apiau negeseua a sgyrsiau fideo yn ddiogel.
- Rhan o
1. Apiau negeseua a sgyrsiau fideo ar-lein
Trosolwg o’r ap
Mae apiau negeseua gwib a phlatfformau sgwrsio fideo ar-lein yn wasanaethau sy’n caniatáu i unigolion gyfathrebu mewn amser go iawn trwy destun, llais a fideo. Mae apiau negeseua yn cynnwys WhatsApp, Messenger a Snapchat. Mae’r apiau hyn yn cynnig nodweddion fel negeseuon testun, ffotograffau, fideos, nodiadau llais a sgyrsiau grŵp hyd yn oed. Mae platfformau sgwrsio fideo ar-lein, fel Chatroulette, yn canolbwyntio ar sgyrsiau fideo amser go iawn, yn aml gydag elfen o anhysbysrwydd.
Fel arfer, mae apiau negeseua gwib wedi’u cynllunio ar gyfer sgyrsiau achlysurol, diweddariadau a thrafodaethau pwysig, yn aml gyda nodweddion ychwanegol fel galwadau fideo a rhannu ffeiliau. Mae platfformau sgwrsio fideo yn fwy ar gyfer pobl sy’n awyddus i gwrdd â phobl newydd neu archwilio hobïau a diddordebau penodol. Mae llawer o’r platfformau hyn yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, er y gallai nodweddion premiwm neu danysgrifiadau fod ar gael ar gyfer swyddogaethau ychwanegol.
Sgôr oedran swyddogol
Mae apiau negeseua ar gael yn eang i’w defnyddio, ac mae dulliau gwirio oedran ar gyfer yr apiau hyn yn llac iawn yn aml. Yr oedran isaf ar gyfer llawer o blatfformau negeseua, fel WhatsApp, Messenger, Snapchat a Discord, yw 13. Fodd bynnag, o’r platfformau hyn, dim ond Messenger sydd ag unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr gan ei fod yn gysylltiedig â chyfrif Facebook defnyddiwr.
Yn wahanol i’r apiau negeseua, mae llawer o blatfformau sgwrsio fideo ar-lein yn nodi eu bod wedi’u bwriadu ar gyfer defnyddwyr 18 oed a throsodd. Fodd bynnag, yn aml mae platfformau sgwrsio fideo mwy o faint a mwy poblogaidd yn hysbysebu hygyrchedd hawdd er mwyn annog mwy o ddefnyddwyr i ymuno. Mae hyn yn golygu y gall dulliau gwirio oedran ar y platfformau hyn nesaf peth i ddim neu ddim yn bodoli. Gall platfformau sgwrsio fideo ar-lein eraill ddefnyddio dull mewngofnodi trydydd parti, megis mewngofnodi trwy Google neu Facebook cyn y gall y defnyddiwr ddechrau sgwrs fideo.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’r apiau
Mae apiau negeseua yn hygyrch a hawdd eu defnyddio sy’n eu gwneud yn arbennig o ddeniadol i blant a phobl ifanc. Dywed adroddiad ar ddefnyddio’r cyfryngau ac agweddau atynt 2024 (Saesneg yn unig) gan Ofcom, bod 81% o blant a phobl ifanc 3 i 17 oed yn defnyddio ap gyda gwasanaethau galw llais neu fideo, ac mae 98% o blant a phobl ifanc 12 i 17 oed yn defnyddio apiau i anfon negeseuon neu wneud galwadau llais neu fideo.
Mae llawer o apiau negeseua yn caniatáu i ddefnyddwyr addasu’r ap yn ôl eu dymuniadau eu hunain, gyda nodweddion fel lluniau proffil neu gefndiroedd sgwrsio. Mae rhai apiau negeseua fel Snapchat yn cynnig mwy o ryddid creadigol a dewis i blant a phobl ifanc hefyd. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn mwynhau’r gallu i ddefnyddio hidlwyr ar Snapchat i gynhyrchu ac anfon lluniau doniol neu greadigol at eu ffrindiau. Yn aml mae apiau negeseua eraill yn cynnwys nodweddion wedi’u teilwra i ddiddordebau neu hobïau penodol. Er enghraifft, mae tros-haen gêmau Discord yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon neges llais neu negeseua’n hawdd wrth chwarae, gan ei gwneud yn arbennig o boblogaidd ymhlith chwaraewyr ifanc.
Gall yr elfen anhysbys a gynigir gan blatfformau sgwrsio fideo ar-lein apelio at bobl ifanc, gan ei bod yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud a dweud beth bynnag a fynnant heb gael eu hadnabod. Mae platfformau sgwrsio fideo ar-lein wedi cael eu poblogeiddio gan grewyr cynnwys ar blatfformau fel YouTube a TikTok hefyd, sy’n gallu recordio eu rhyngweithiadau eu hunain ar blatfformau sgwrs fideo a’u postio fel cynnwys. Gallai blant a phobl ifanc geisio ailadrodd y cysylltiadau hyn neu recordio eu profiadau ar blatfformau sgwrsio fideo a defnyddio’r cynnwys ar gyfer eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol eu hunain.
Platfformau sgwrsio poblogaidd
Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr o blatfformau poblogaidd ond mae’n cynrychioli rhai platfformau sgwrsio cyfredol y gallai plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio:
Mae yna nifer o blatfformau sgwrsio fideo sy’n cysylltu defnyddwyr ar hap ar gyfer sgyrsiau un i un neu grŵp. Dylai rhieni a gofalwyr gofio nad yw’r platfformau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer defnyddwyr dan 18 oed.