Canllaw microflogio
Helpu eich plentyn i ddefnyddio apiau microflogio yn ddiogel.
- Rhan o
3. Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel
Gwirio gofynion oedran ac addasrwydd cynnwys
Archwiliwch yr apiau microflogio mae’ch plentyn yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Dylech ddod yn gyfarwydd â gofynion isafswm oedran yr apiau, yr ystod o gynnwys a rhyngweithiadau. Aseswch a yw’r apiau yn addas i’ch plentyn a’i gyfnod datblygu.
Meithrin sgiliau llythrennedd digidol
Helpwch eich plentyn i ddatblygu meddwl beirniadol a sgiliau llythrennedd digidol. Helpwch i ddadansoddi’r hyn y mae’n ei weld ar-lein a nodi unrhyw gynnwys a all gael ei ddefnyddio i:
- gamhysbysu defnyddwyr
- tywys defnyddwyr i feddwl yn radical
Bydd y sgiliau hyn yn helpu’ch plentyn i ystyried effaith ei bostiadau ei hun hefyd, ac adnabod sefyllfaoedd anniogel ar-lein.
Ymdrin â phrofiadau negyddol
Siaradwch â’ch plentyn am sut y gallai ymdrin â gwrthdaro ar-lein fel bwlio ac iaith sarhaus. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod sut i:
- ymateb i sylw diangen neu negyddol
- blocio defnyddwyr
- riportio postiadau amhriodol a sarhaus
Anogwch eich plentyn i siarad â chi os bydd unrhyw sgyrsiau ar-lein yn arwain at fwlio, aflonyddu neu feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Deall olion traed digidol
Anogwch eich plentyn i feddwl am yr hyn y mae’n ei ddweud mewn postiad cyn ei rannu ar-lein. Atgoffwch fod popeth mae’n ei bostio ar-lein yn cyfrannu at ôl-troed digidol, ac y gallai golli rheolaeth arno unwaith mae’r neges wedi ei rhannu. Anogwch eich plentyn i ystyried yn ofalus a allai ei bostiad arwain at:
- gael ei ddehongli fel neges niweidiol
- cael ei gamddeall
- achosi cywilydd neu embaras iddo yn ddiweddarach yn ei fywyd
Dysgu am nodweddion diogelwch gyda’ch gilydd
Mae llawer o blatfformau microflogio yn cynnwys nodweddion diogelwch pwrpasol. Mae’r rhain yn amrywio o riportio a blocio i osodiadau teuluol mwy arbenigol. Dewch i arfer â’r gosodiadau hyn a sicrhau bod eich plentyn yn gwybod sut i’w defnyddio.