English

1. Microflogio

Math o blatfform cyfryngau cymdeithasol yw platfformau microflogio. Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys amser go iawn, ffurf fer, fel:

  • postiadau bach
  • lluniau
  • fideos byr

Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gynt o gymharu â phlatfformau eraill sy’n caniatáu postiadau a fideos hirach.

Mae gan lawer o ficroflogiau isafswm oedran o 13. Fodd bynnag, nid yw’r broses gwirio oedran yn drylwyr iawn ac mae’n aml yn dibynnu ar ddefnyddwyr yn hunanddatgan eu hoedran. 

Mae cynnwys ar blatfformau microflogio yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn bennaf a’i gyfarwyddo gan algorithmau. Mae hyn yn golygu y gallai defnyddwyr iau ddod ar draws cynnwys sy’n anaddas i’w hoedran neu gyfnod datblygu.

Mae cynnwys byrion yr apiau yn aml yn hynod ryngweithiol ac yn hawdd pori drwyddo. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddilyn testun sgwrs sy’n trendio’n gyflym. 

Mae gan ddefnyddwyr microflog gynulleidfa fawr yn aml. Gallai’r posibilrwydd o weld eu cynnwys yn ennill poblogrwydd a mynd yn feiral fod yn apelgar i rai pobl ifanc.

Mae’r platfformau poblogaidd y gall pobl ifanc fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn cynnwys: