Canllaw gemau aml-chwaraewr
Helpu eich plentyn i chwarae gemau ar-lein yn ddiogel.
- Rhan o
2. Risgiau posib
Cynnwys
Mae sgôr oedran pob gêm yn rhoi syniad da o’r math o gynnwys mae chwaraewyr yn debygol o ddod ar ei draws wrth chwarae. Yn aml bydd disgrifyddion cynnwys yn cynnwys themâu rhywiol, ofn, iaith anweddus, cyffuriau, gamblo a chynnwys treisgar.
Mae gemau â sgoriau oedran uwch yn tueddu i gynnwys mwy o themâu mwy aeddfed, gan gynnwys trais. Gall chwaraewyr ymgolli’n llwyr mewn gemau saethwr person cyntaf. Mae’r gemau hyn yn cael eu chwarae o safbwynt y cymeriad yn aml a gall golygfeydd treisgar ymddangos yn union wrth ymyl yr hyn mae’r chwaraewr yn ei weld.
Yn aml, mae’r swyddogaethau sgwrsio llais a thestun yn y gêm yn gallu cynnwys elfennau amhriodol. Awgrymir:
- eich bod yn mynd drwy’r ddewislen rheolaethau rhieni i osod y gosodiadau cynnwys a sgwrsio perthnasol sy’n addas i’ch plentyn
- eich bod yn sicrhau bod eich plentyn yn gwybod sut i riportio chwaraewyr eraill os yw’n teimlo bod eu hymddygiad yn amhriodol
- bod eich plentyn yn chwarae gyda ffrindiau all-lein, yn hytrach nag mewn gemau cyhoeddus
Mae rhai gemau, fel Roblox, lle mae cyfran o’r cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr (gemau sy’n cael eu creu gan ddefnyddwyr eraill y platfform yn hytrach na datblygwr y gêm). Bu achosion o gemau newydd wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddwyr sy’n cynnwys delweddau a chynnwys anweddus yn cael eu lanlwytho ar y platfformau hyn. Nid yw’r cynnwys hwn yn cael ei dynnu i lawr ar unwaith bob amser felly mae’n bwysig gwirio cynnwys y gêm y mae eich plentyn yn ei chwarae.
Mae gan lawer o’r gemau ar-lein poblogaidd gymuned gref o ddilynwyr y tu allan i’r gêm. Mae cefnogwyr gemau cyfrifiadurol yn mwynhau gwylio chwaraewyr eraill ar blatfformau fel YouTube a Twitch hefyd. Er bod gan bob gêm ei sgôr oedran ei hun, nid yw hyn yn berthnasol i unrhyw gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, felly nid yw’r iaith a ddefnyddir yn ystod ffrydiau gemau byw a’r swyddogaeth sylwadau ar blatfformau eraill yn cael ei sgorio.
Cysylltu ag eraill
Mae llawer o gemau ar-lein ar gael mewn modd chwaraewr sengl neu aml-chwaraewr, sy’n golygu y gallai eich plentyn chwarae gyda phobl nad yw’n eu hadnabod yn y byd all-lein. Pan fydd chwaraewyr yn dechrau chwarae gêm, gallan nhw reoli eu gosodiadau aml-chwaraewr, gan ddewis rhwng gosodiadau fel:
- ‘invite only’
- ‘friends only’
- ‘friends of friends’
- ‘public’
Os yw’ch plentyn eisiau chwarae mewn gweinydd aml-chwaraewr, dylai chwarae gyda phobl y mae’n eu hadnabod gan ddewis naill ai opsiynau ‘invite only’ neu ‘friends only’, yn hytrach na gemau cwbl gyhoeddus lle gallai ddod ar draws chwaraewyr o unrhyw oedran.
Bu achosion lle mae oedolion wedi meithrin perthynas amhriodol ar-lein â phobl ifanc ar blatfformau gemau. Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i beidio â derbyn gwahoddiad chwarae na chais ffrind gan rywun nad yw’n ei adnabod mewn bywyd go iawn. Anogwch nhw i sôn wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu beri gofid mewn sgwrs. Dylai rhieni a gofalwyr archwilio’r ddewislen gosodiadau a rheolaethau rhieni i gyfyngu ar y rhyngweithio y gall eich plentyn ei gael gyda chwaraewyr eraill.
Mae’n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i siarad wrth chwarae gemau. Holwch eich plentyn i weld a yw’n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae a gwirio â phwy mae’n cyfathrebu. Er bod sgwrsio yn rhan apelgar o’r gemau hyn, nid yw’n hanfodol i chwarae.
Ymddygiad defnyddwyr
Mae gan y mwyafrif o gemau aml-chwaraewr ar-lein eu set eu hunain o reolau, canllawiau neu safonau cymunedol, y mae’n rhaid i bob chwaraewr eu dilyn er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr nad ydyn nhw’n ymddwyn fel y disgwyl mewn perygl o gael eu tynnu o’r gêm. Enghraifft o hyn yw ‘griefing’, lle mae chwaraewr yn difetha neu’n amharu ar brofiad chwaraewyr eraill yn fwriadol yn y gêm. Gall rhai chwaraewyr ymddwyn yn emosiynol yn y gemau maen nhw’n eu chwarae a all effeithio ar eu hymddygiad yn y gêm. Enghraifft o hyn yw ‘ragequit’, lle mae chwaraewr yn gadael gêm yn sydyn oherwydd rhwystredigaeth neu ddicter, gan amlaf yn sgil colli, sefyllfaoedd annheg neu deimlo wedi’i orlethu.
Siaradwch â’ch plentyn am ymddygiad priodol wrth chwarae gemau aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i riportio ymddygiad amhriodol.
Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd dal gafael ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi’i rannu ar-lein, gan gynnwys mewn ffrydiau gemau byw. Mae modd i eraill gopïo ac ail-bostio cynnwys yn hawdd a gall fod yn anodd ei ddileu o’r rhyngrwyd wedyn.
Dyluniad a chostau
Mae dyluniad apelgar llawer o gemau yn golygu bod chwaraewyr yn cael cynnig gwobrau a bonysau diddiwedd yn aml am chwarae rownd arall neu ddatblygu sgiliau. I rai chwaraewyr, gall fod yn anodd cymryd amser i ffwrdd o’r gêm oherwydd y nodweddion dylunio apelgar hyn.
Siaradwch â’ch plentyn am sut mae gemau wedi’u cynllunio i ennyn a chadw diddordeb chwaraewyr ac ystyried gosod terfynau amser chwarae i sicrhau ei fod yn cael egwyl addas i ffwrdd o’r gêm.
Mae llawer o gemau aml-chwaraewr ar-lein yn darparu cyfleoedd i chwaraewyr brynu eitemau mewn gêm gan ddefnyddio arian go iawn i brynu eitemau yn y gêm. Yn aml mae eitemau y gellir eu prynu yn cynnwys deunydd unigryw, eitemau i bersonoli afatariaid, a chymeriadau neu nodweddion ychwanegol.
Siaradwch â’ch plentyn am brynu eitemau drwy’r ap fel ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn y gêm. Gallwch osod y gosodiadau perthnasol ar gyfer prynu mewn ap ar eich dyfais hefyd.
Mae blychau ysbeilio (loot boxes) yn risg i rai defnyddwyr hefyd, gan eu bod yn hyrwyddo gwariant gormodol ac yn annog ymddygiad gamblo. Gall hyn arwain at y posibilrwydd o blant a phobl ifanc prynu eitemau heb fawr o ddealltwriaeth o’r goblygiadau ariannol.