Canllaw gemau aml-chwaraewr
Helpu eich plentyn i chwarae gemau ar-lein yn ddiogel.
- Rhan o
3. Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel
Gwirio sgôr oedran a chynnwys y gêm
Bob tro y bydd eich plentyn eisiau dechrau chwarae gêm newydd, manteisiwch ar y cyfle i fwrw golwg ar y gêm yn gyntaf a dod yn gyfarwydd â’r cynnwys a rhyngweithiadau posibl. Mae cyfoeth o gynnwys ar gael ar-lein sy’n rhoi trosolwg o wahanol gemau ar-lein, gan gynnwys fideos o rywun yn chwarae’r gêm go iawn. Fel hyn, gallwch asesu a yw’r gêm yn addas ar gyfer eich plentyn a’i gam datblygu.
Dod yn gyfarwydd â’r ddewislen gosodiadau
Dylai rhieni a gofalwyr neilltuo amser i ddod yn gyfarwydd â gosodiadau’r gêm y mae eu plant yn mwynhau ei chwarae. Er bod pob gêm yn wahanol, yn aml bydd gosodiadau ar gael i reoli preifatrwydd a rhyngweithio, fel dewis rhwng parthau cyhoeddus a phreifat. Mae’n werth nodi hefyd bod gan rai gemau opsiynau ‘account restriction’ hefyd, sy’n eich galluogi i gyfyngu ar gynnwys a chysylltiadau penodol rhwng chwaraewyr.
Galluogi hidlwyr sgwrsio a thewi chwaraewyr amhriodol
Ar gyfer gemau aml-chwaraewr sydd â swyddogaethau sgwrsio, neilltuwch amser i archwilio’r gosodiadau ar gyfer rheoli sgyrsiau. Mae llawer o gemau yn cynnig hidlwyr iaith anweddus, sy’n diogelu rhag defnyddio iaith wael mewn sgyrsiau. Mae’n werth cofio na fydd hyn yn berthnasol i sgwrs llais, er y bydd llawer o gemau yn caniatáu i chi dewi chwaraewyr sy’n defnyddio sgwrs llais.
Rheoli pryniannau mewn gêm a gwariant ychwanegol
Mae modd rheoli pryniannau mewn gêm ar-lein trwy osod terfynau gwariant clir ar gyfer eich plentyn a sicrhau ei fod yn deall gwerth arian yn y byd go iawn. Defnyddiwch rheolaethau rhieni (lle maen nhw ar gael) i gyfyngu neu fonitro trafodion.
Sefydlu rheolau clir ar gyfer chwarae gemau
Gweithiwch gyda’ch plentyn i sefydlu rheolau sylfaenol ar gyfer gemau ar-lein. Gall hyn amrywio rhwng y mathau o gemau y mae eich plentyn yn hoffi eu chwarae. Er mwyn helpu i osgoi chwarae gormodol, gweithiwch gyda’ch plentyn i osod terfynau amser defnyddio’r gêm. Ar gyfer gemau sy’n gofyn am waith tîm, cytunwch ar faint o rowndiau y gall eu chwarae cyn dechrau chwarae’r gêm.
Monitro a rhwystro defnyddwyr amhriodol
Dysgwch eich plentyn sut i rwystro neu riportio chwaraewyr sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus neu’n ymddwyn yn amhriodol. Mae gan lawer o blatfformau offer i riportio rhywun sy’n camymddwyn neu blocio defnyddwyr. Anogwch eich plentyn i roi gwybod am unrhyw ymddygiad amhriodol i weinyddwyr y platfform ar unwaith a’i gynorthwyo os yw angen help i wneud hynny. Esboniwch y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws sefyllfa sy’n gwneud iddo deimlo’n anniogel neu’n ofidus, fel y gallwch ei helpu i ymdrin â’r mater yn briodol.