English

1. Gemau aml-chwaraewr

Gemau fideo sy’n caniatáu i chwaraewyr gysylltu a rhyngweithio â’i gilydd dros y rhyngrwyd mewn amser go iawn yw gemau aml-chwaraewr ar-lein. Gall y gemau hyn amrywio o brofiadau cydweithredol, lle mae chwaraewyr yn dod at ei gilydd i gyflawni nodau cyffredin, i fformatau mwy cystadleuol, lle maen nhw’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. 

Gall gemau aml-chwaraewr ar-lein gynnwys amrywiaeth eang o genres, gan gynnwys saethwyr person cyntaf, gemau chwarae rôl, strategaeth amser go iawn ac efelychiadau chwaraeon. 

Fel arfer, mae’r gemau hyn yn gofyn i chwaraewyr greu cyfrifon, ymuno â gweinyddwyr ac weithiau ffurfio timau neu urddau, a all helpu i feithrin rhyngweithio cymdeithasol ac ymdeimlad o gymuned.

Mae’r gemau hyn yn cynnwys nodweddion ychwanegol yn aml megis byrddau arweinwyr, cyflawniadau, cynnwys y gellir ei lawrlwytho ac uwchraddio am dâl. Mae’r cynnydd mewn platfformau ffrydio gemau ac e-chwaraeon wedi cynyddu poblogrwydd gemau aml-chwaraewr ymhellach, gan ganiatáu i chwaraewyr nid yn unig chwarae ond hefyd wylio a chymryd rhan mewn twrnameintiau ar raddfa fawr. Gyda thechnoleg sy’n esblygu, mae gemau aml-chwaraewr ar-lein yn parhau i dyfu mewn cymhlethdod, gan gynnig profiadau unigryw ac atyniadol i chwaraewyr sy’n eu cysylltu â chymuned gemau ehangach.

Arweiniad yw sgoriau oedran chwarae gemau ar-lein sy’n helpu i bennu’r grŵp oedran priodol ar gyfer y gêm yn seiliedig ar ei chynnwys.

Mae sgoriau oedran swyddogol yn cael eu pennu gan sefydliadau gwahanol ledled y byd. Mae’r rhain yn cynnwys PEGI (Pan European Game Information) (Saesneg yn unig), yr asesydd oedran swyddogol yn y DU. Mae’r sgoriau hyn yn asesu ffactorau fel trais, iaith, cynnwys rhywiol a themâu cyffredinol. 

Ar gyfer gemau nad oes ganddyn nhw sgoriau oedran swyddogol, mae siopau apiau yn darparu dangosyddion argymelledig (er enghraifft ‘E’ ar gyfer pawb, ‘T’ ar gyfer pobl ifanc, ac ‘M’ ar gyfer pobl hŷn neu 18+).

Mae sgoriau oedran yn sicrhau bod chwaraewyr yn agored i gynnwys sy’n addas ar gyfer eu hoedran, gan hyrwyddo amgylchedd gemau mwy diogel a mwy priodol. Hefyd, maen nhw’n helpu rhieni a gofalwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am y gemau y gall eu plant eu chwarae.

Mae plant a phobl ifanc yn defnyddio gemau aml-chwaraewr ar-lein i gysylltu â ffrindiau neu archwilio bydoedd rhithwir. Mae’r gemau hyn yn darparu llwyfan ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol lle gall chwaraewyr sgwrsio, cydweithio neu gystadlu mewn amser go iawn.

Gall gemau aml-chwaraewr ar-lein yn fath o adloniant ac ymlacio, gan gynnig profiadau trochi sy’n apelio at eu diddordebau, p’un ai mewn chwaraeon, ffantasi neu strategaeth.

Mae rhai chwaraewyr ifanc yn cymryd rhan mewn e-chwaraeon neu’n ffrydio eu gemau, gan rannu eu profiadau gyda chynulleidfa ehangach. Er bod y gemau hyn yn cynnig manteision hwyliog a chymdeithasol, mae’n bwysig i rieni a gofalwyr fonitro’r chwarae i sicrhau bod eich plentyn yn ymgysylltu’n ddiogel ac yn briodol yn yr amgylchedd ar-lein.

  • Tynnu sylw at chwarae gemau ar-lein pdf 127 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Dyma rhai o’r platfformau poblogaidd y gallai plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd.