2. Risgiau posibl
Cynnwys
Gall platfformau ffrydio olygu bod pobl ifanc yn dod ar draws cynnwys amhriodol neu sarhaus sy’n:
- dreisgar
- rhywiol
- eithafol neu niweidiol
Er mai 13 yw isafswm oedran y rhan fwyaf o blatfformau, nid yw hyn yn gwarantu y bydd y cynnwys yn addas ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
Mae algorithmau yn awgrymu cynnwys sy’n gysylltiedig â chwiliadau neu ryngweithiadau blaenorol defnyddiwr ar blatfform. Gall delweddau mân-luniau a theitlau fideo gynnwys delweddau amhriodol sy’n osgoi hidlwyr cynnwys. Nid yw pob adran sylwadau yn cael ei chymedroli yn effeithiol, ac mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn gweld negeseuon ymosodol neu anweddus.
Gall gweld cynnwys amhriodol neu eithafol dro ar ôl tro olygu bod pobl ifanc yn dod i arfer â gweld cynnwys o’r fath. Gall hyn eu gwneud yn fwy tebygol o chwilio am ddeunydd tebyg neu ymwneud â chynnwys fel hyn yn y dyfodol.
Cysylltu ag eraill
Mae platfformau ffrydio byw yn aml yn cynnwys:
- rhyngweithio amser go iawn trwy sgyrsiau byw
- negeseuon preifat
Gallai’r rhain greu ymdeimlad o gymuned a diddordeb cyffredin. Fodd bynnag, mae modd i rai fanteisio ar hyn ac mae hyn yn cyflwyno risg sylweddol o:
- aflonyddu rhywiol ar-lein
- meithrin perthynas amhriodol ar-lein
- dod i gysylltiad â sgyrsiau neu ymddygiadau amhriodol
- cyswllt annymunol
Gall natur rhyngweithiadau amser go iawn hefyd arwain at weithredoedd byrbwyll. Mae’r rhain yn cynnwys gor-rannu gwybodaeth bersonol neu ymateb mewn ffordd emosiynol i negeseuon pryfoclyd. Gall hyn olygu bod pobl ifanc yn dargedau ar gyfer sgamiau neu gyswllt amhriodol.
Ymddygiad defnyddwyr
Gall platfformau ffrydio ddylanwadu ar ymddygiad pobl ifanc. Mae rhai sy’n creu cynnwys yn cymryd rhan mewn gweithredoedd eithafol neu anniogel i ennill sylw, dilynwyr neu roddion. Gallai’r rhain amrywio o styntiau peryglus i hyrwyddo ffyrdd o fyw afiach, y gall pobl ifanc geisio eu hefelychu.
Gall ffrydio byw a sgwrs fyw annog ymddygiad digymell a byrbwyll. Gall pobl ifanc ddatgelu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth y gallai rhywun ei defnyddio i’w hadnabod nhw heb fod wedi bwriadu gwneud hynny. Gallai hyn gynnwys eu lleoliad neu eu hysgol, gan roi eu diogelwch a’u preifatrwydd yn y fantol.
Gall ymatebion emosiynol yn ystod rhyngweithio byw arwain at gamau y gallai rhywun eu difaru, fel:
- ymateb yn wael i feirniadaeth
- ymgysylltu â throliau
Dyluniad a chostau
Mae platfformau ffrydio wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o ymgysylltiad â defnyddwyr. Gall fod yn anodd peidio ag ymgysylltu â’r platfformau hyn oherwydd nodweddion fel:
- awtochwarae
- hysbysiadau
- sgrolio diddiwedd
Gall hyn arwain at ormodedd o amser sgrin.
Gall ffrydio beri risgiau ariannol i bobl ifanc. Mae llawer o blatfformau yn cynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr brynu eitemau yn yr ap, tanysgrifiadau a nodweddion unigryw. Gall ffrydwyr ofyn am roddion neu hyrwyddo cynhyrchion gan ddefnyddio tactegau perswadio fel:
- cynigion am amser cyfyngedig
- apeliadau emosiynol
- addewidion o ryngweithio unigryw
Gall gweld y ceisiadau hyn yn rheolaidd:
- annog arferion gwario sydd ddim yn iach
- normaleiddio cyfraniadau ariannol fel rhywbeth angenrheidiol ar gyfer cael eich cynnwys neu er mwyn cael cydnabyddiaeth mewn cymunedau ar-lein