3. Awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel
Gwirio gofynion oedran ac addasrwydd cynnwys
Manteisiwch ar y cyfle i archwilio apiau ffrydio y mae’ch plentyn yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Dylech ddod yn gyfarwydd â gofynion isafswm oedran yr apiau, yr ystod o gynnwys a rhyngweithiadau. Bydd hyn yn eich helpu i asesu a yw’r apiau yn addas i’ch plentyn a’i gyfnod datblygu. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws unrhyw gynnwys sy’n peri gofid.
Gosod terfynau amser sgrin
Mae’r ffordd y mae platfformau ffrydio wedi eu cynllunio yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc reoli eu hamser sgrin eu hunain. Gweithiwch gyda’ch plentyn i osod terfyn amser wrth ddefnyddio platfformau ffrydio. Bydd hyn yn atal gorddefnydd ac yn sicrhau bod ganddo amser ar gyfer gweithgareddau eraill.
Monitro rhyngweithiadau gyda’r rhai sy’n creu cynnwys a gwylwyr
Byddwch yn wyliadwrus ynglŷn â phwy mae’ch plentyn yn ymgysylltu â nhw ar blatfformau ffrydio. Trafodwch y risgiau o gysylltu â dieithriaid ar-lein. Esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth a alla ganiatáu i rywun ei adnabod. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych os bydd rhywun yn gofyn cwestiynau personol iawn neu wedi gwneud iddo deimlo’n ofidus neu’n anghyfforddus.
Meddwl cyn rhannu
Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y cynnwys y mae’n dewis ei rannu. Dylai ystyried a fyddai’n hapus i bawb mae’n ei adnabod weld y cynnwys hwnnw, nawr ac yn y dyfodol.