1. Ffrydio
Trosolwg
Mae platfformau ffrydio yn darparu mynediad ar alw i ystod eang o gynnwys gan gynnwys:
- fideos
- cerddoriaeth
- darllediadau byw
- podlediadau
Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr wylio neu wrando ar gynnwys ar unrhyw bwnc ar ba bynnag adeg maen nhw’n dymuno. Mae rhai platfformau wedi’u neilltuo i ffrydio yn unig, ond mae eraill yn cynnig ffrydio byw fel nodwedd.
Mae’r rhan fwyaf o blatfformau yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, er eu bod yn gallu cynnig tanysgrifiadau premiwm i gael gwared ar hysbysebion neu ddatgloi nodweddion unigryw. Mae rhai platfformau ffrydio yn caniatáu i’r rhai sy’n creu cynnwys godi tâl amdano. Gall hyn ddylanwadu ar y math o gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu a sut mae’r rhai sy’n creu yn ymgysylltu â’u cynulleidfa.
Sgôr oedran swyddogol
Mae gan y rhan fwyaf o blatfformau ffrydio isafswm oedran o 13. Fodd bynnag, anaml iawn mae’r cyfyngiadau oedran hyn yn cael eu gorfodi’n drylwyr. Mae’r rhan fwyaf o blatfformau yn dibynnu ar ddefnyddwyr yn hunanddatgan eu hoedran. Mae hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i ddefnyddwyr iau greu cyfrifon gyda dyddiad geni ffug.
Gan fod y cynnwys ar blatfformau ffrydio yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, yn aml mae llawer ohono yn anaddas i ddefnyddwyr iau. Er enghraifft, efallai bod gan blatfform ffrydio isafswm oedran o 13, ond bod ffrydwyr yn trafod gêm neu ffilm sydd â sgôr oedran 18 ac yn uwch ar y platfform hwnnw.
Sut mae pobl ifanc yn defnyddio apiau ffrydio
Mae platfformau ffrydio yn ffordd boblogaidd i bobl ifanc gael eu hadloniant a rhyngweithio â chyfryngau digidol. Defnyddir platfformau fel YouTube yn gyffredin ar gyfer dysgu sgiliau newydd ac archwilio hobïau. Mae platfformau fel Spotify yn cynnig cerddoriaeth a phodlediadau wedi’u teilwra i chwaeth unigol.
Mae platfformau ffrydio byw yn tueddu i fod yn boblogaidd ymhlith chwaraewyr gemau gan eu bod yn caniatáu i wylwyr:
- wylio eraill yn chwarae gemau mewn amser go iawn
- rhyngweithio â ffrydwyr trwy sgwrs
- cymryd rhan mewn sesiynau ffrydio
Gallai’r lefel hon o ryngweithio greu ymdeimlad o gymuned ymhlith gwylwyr a’r rhai sy’n creu cynnwys.
Hefyd, gall pobl ifanc greu eu cynnwys eu hunain, fel blogiau fideos neu ffrydiau byw.
Platfformau poblogaidd
Mae’r platfformau poblogaidd y gall pobl ifanc fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn cynnwys: