Asesiadau darllen a rhifedd
- Rhan o
Trosolwg
Mae datblygu sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr yn rhan fandadol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae athrawon yn defnyddio ystod o ddulliau asesu i gyflawni hyn, gan gynnwys asesiadau personol. Mae asesiadau personol mewn darllen a rhifedd:
- yn fandadol ac yn cael eu gwneud ar-lein gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru
- yn rhoi adborth ar sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr
- yn rhoi syniad i athrawon o le mae dysgwyr yn eu taith ddysgu
- yn helpu athrawon i gynllunio'r camau nesaf a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd